Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi’i gyhuddo o feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad o werthu yn dilyn ymgyrch heddlu ragweithiol i ryng-gipio car a oedd yn teithio drwy Sir Gaerfyrddin.
Arestiodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys Muhajid Edwards o Gaerdydd yng ngorsaf gwasanaethau traffordd Pont Abraham ychydig ar ôl hanner nos ar 18 Mawrth.
Aed â’r dyn 24 oed i ddalfa’r heddlu, lle y cafodd ei gyhuddo o feddu ar heroin â’r bwriad o werthu, meddu ar grac cocên â’r bwriad o werthu, rhwystro cwnstabl wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd, gyrru pan oedd wedi’i wahardd, gyrru heb yswiriant a gyrru cerbyd yn groes i amodau trwydded ar 29 Mawrth.
Y mae wedi’i gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 29 Ebrill.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Jones: “Mae nifer o ymholiadau wedi’u cynnal i’r hyn sydd eisoes wedi bod yn ymchwiliad dwys. Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion sydd wedi bod yn rhan o’r ymchwiliad hyd yn hyn am eu dyfalbarhad a’u hymrwymiad i ymholiadau.
“Gobeithiwn y bydd yr arést a’r cyhuddiad hwn yn anfon neges glir ein bod ni’n gweithio’n barhaus i aflonyddu ar gyflenwi a defnyddio sylweddau anghyfreithlon yn ein cymunedau.”
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Shaun Bowen: “Mae’r arést a’r cyhuddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad tuag at amddiffyn pobl sy’n byw yn ein hardal, a’n gwaith parhaus ar gyfer atal cyflenwi cyffuriau yn Sir Gaerfyrddin.
“Byddwn yn parhau i weithredu ar unrhyw wybodaeth a dderbynnir ynglŷn â chamddefnyddio cyffuriau yn ein cymunedau, a byddwn yn diweddaru ein gwaith yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod camau gweithredu’n cael eu cymryd.”