Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Canfuwyd nad oedd yswiriant na thrwydded yrru’r DU gan ddyn a roddodd fanylion ffug i’r heddlu er mwyn osgoi cael ei arestio. Roedd y dyn hefyd wrth y llyw er bod ganddo ddwy flynedd ar ôl o waharddiad pum mlynedd a hanner.
Stopiodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys gyrrwr Audi lliw arian tua 5.10pm ar ddydd Sul, Mawrth 14, gan amau ei fod wedi ei ddiarddel.
Yn dilyn cymryd ei olion bysedd er mwyn sicrhau pwy ydoedd, gan nad oedd yr enw a roddodd yn cyfateb i’r dogfennau a oedd yn ei feddiant, canfu swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd Sir Benfro na ddylai’r dyn fod ar y ffordd o gwbl.
Meddai’r Rhingyll Paul Owen-Williams: “Roedd swyddogion yn amau ei fod yn dweud celwydd ynghylch pwy ydoedd ac felly rhoddasant nifer o gyfleoedd iddo gadarnhau pwy ydoedd mewn gwirionedd er mwyn iddynt allu gwirio a oedd hawl cyfreithiol ganddo i yrru.
“Gwrthododd, ac roedd yn rhaid i swyddogion ddefnyddio peiriant olion bysedd i sefydlu ei enw go iawn.”
“Yn y diwedd sefydlwyd mai Armands Nikiforovs, 28 oed, o Amroth, ydoedd. Yna cyfaddefodd iddo fod yn y DU am chwe blynedd, ond nad oedd ganddo drwydded yrru ddilys.”
Arestiwyd Nikiforovs a mynd ag ef i’r ddalfa, lle cyflawnwyd gwiriadau pellach. Canfuwyd ei fod wedi ei ddiarddel rhag gyrru tan Fehefin 5, 2023 - gwaharddiad 67 mis a osodwyd am droseddau gyrru yn 2017.
Cyhuddwyd ef o ddefnyddio cerbyd modur ar y ffordd heb yswiriant trydydd parti, gyrru pan dan waharddiad a rhwsytro’r heddlu, ac aethpwyd ag ef i Lys yr Ynadon Hwlffordd. Cafodd ddedfryd o 12 wythnos yn y carchar, wedi ei gohirio am ddwy flynedd, a gwaharddiad gyrru tair blynedd, a rhaid iddo dalu dirwy, costau a gordal dioddefwyr gyda’r cyfanswm o £506.
Meddai’r Rhingyll Owen-Williams: “Mae’n amlwg bod Nikiforovs yn gwbl ddi-hid o’r gyfraith, a diogelwch defnyddwyr eraill y ffordd, ac aeth y tu ôl i’r llyw pan oedd dan waharddiad gyrru hir.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd ohiriedig a osodwyd heddiw yn gwneud iddo ailystyried cyn gwneud yr un peth eto.”