Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae grwpiau o hyd at 100 o bobl ifainc yn eu harddegau wedi’u symud ymlaen, a llawer iawn o alcohol wedi’i atafaelu, wrth i’r heddlu ymateb i bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol ger llwybr yr arfordir ym Mhorth Tywyn.
Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio pwerau o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i wasgaru grwpiau o bobl ifainc sy’n cwrdd i yfed alcohol mewn coetir a thwyni tywod oddi ar y llwybr. Roedd llawer ohonynt wedi teithio o’r ardal i gwrdd â’i gilydd.
Rhoddwyd cynlluniau ar waith cyn y gwyliau Pasg fel rhan o ymgyrch ar y cyd gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin i ymdrin â chynulliadau disgwyliedig ar ôl i gyfyngiadau teithio lacio – ac yn arbennig er mwyn targedu grwpiau o bobl ifainc sy’n cwrdd ym Mhorth Tywyn.
Mae Gorchymyn Adran 34 dal mewn grym ar gyfer Porth Tywyn a llwybr yr arfordir o Harbwr Pen-bre i bentref Pwll, sy’n galluogi swyddogion i symud pobl o’r ardal a’u hatal rhag dychwelyd am hyd at 48 awr.
Dywedodd y Rhingyll Gemma Davies: “Derbyniwyd nifer o alwadau gan breswylwyr ym Mhorth Tywyn sy’n poeni am ymddygiad grwpiau mawr o bobl ifainc yn y dref.
“Cymerwyd camau gweithredu rhagweithiol, a rhoddwyd cynlluniau mewn grym ar gyfer ymdrin â materion o’r fath y penwythnos diwethaf ac i mewn i ŵyl y banc.
“Yn hanesyddol, mae cynulliadau o’r fath yn yr ardal wedi arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol, felly ry’n ni’n rhoi adnoddau ychwanegol mewn grym i alluogi swyddogion i ymateb yn gyflym ac atal materion rhag gwaethygu.”
Mae Tîm Plismona Bro Llanelli, gyda chymorth swyddogion ymateb, yn cynnal patrolau amlwg ar hyd llwybr yr arfordir, gan gynnal patrolau mewn ardaloedd sy’n boblogaidd ymysg pobl ifainc, ac mae gwaith yn cael ei gyflawni gan dîm lleihau tanau bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Nos Sadwrn, gwasgarwyd tua 50 o bobl ifainc yn eu harddegau a welwyd yn mynd i’r coetir, ac fe’u cynghorwyd i fynd gartref. Roedd y bobl ifainc hyn rhwng 13 ac 16 oed.
Neithiwr (nos Fawrth 30 Mawrth), galwyd swyddogion i’r harbwr, lle’r oedd grwpiau mawr wedi ymgasglu unwaith yn rhagor. Anfonwyd tua 100 o bobl ifainc yn eu harddegau gartref o’r ardal rhwng yr harbwr a maes carafanau Shoreline. Gadawyd llawer iawn o sbwriel a photeli ar ôl, ac achoswyd difrod gan y tanau yn y twyni tywod.
Mae gwiriadau trwydded yn cael eu cynnal mewn siopau yn yr ardal i’w hatgoffa am y cyfreithiau o gwmpas gwerthu alcohol.
Dywedodd y Rhingyll Davies: “Byddwn yn parhau i batrolio’r ardal, ac ni fyddwn yn oedi i wasgaru grwpiau, gan anfon y neges na fyddwn yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol o’r fath.
“Hoffem apelio’n uniongyrchol i rieni i fod yn ymwybodol o leoliad eu plant, a beth maen nhw’n ei wneud. Mae’r ymddygiad hwn yn achosi gofid i bobl sy’n byw ym Mhorth Tywyn, ac rydym yn eich annog i fod yn atebol am weithredoedd eich plant.
“Yr ydym yn deall bod y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd, a bod plant eisiau gweld eu ffrindiau, ond gwnewch eich gorau os gwelwch chi’n dda i sicrhau eu bod nhw’n glynu wrth y rheoliadau sydd mewn grym er diogelwch pawb ohonom.”
Cynhaliodd swyddogion o Dimoedd Plismona Bro Llanelli a Rhydaman batrolau amlwg ychwanegol mewn mannau allweddol o ran twristiaid er mwyn sicrhau bod rheoliadau’n cael eu dilyn er bod mwy o ymwelwyr wrth i gyfyngiadau teithio llacio.
Ymwelodd swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin â 50 carafán a sefydliad hunanarlwyo ar draws y sir er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r cyfyngiadau newydd a rhoi cyngor i’r rhai yr oedd ei angen.
*Am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cyfyngiadau ar deithio a chymdeithasu, galwch heibio i www.llyw.cymru/coronafeirws