Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddlu Dyfed-Powys yw’r heddlu cyntaf yng Nghymru i gael ei wobrwyo am ei ymrwymiad i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r heddlu wedi cofrestru ar gyfer yr Addewid Cymorth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sy’n ymrwymo swyddogion a staff i roi llais i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol pan maen nhw’n teimlo nad yw eu hachos wedi derbyn ymateb digonol.
Rhoddwyd gwobr Addewid Cymorth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i Heddlu Dyfed-Powys ar ôl iddynt greu proses glir sy’n galluogi’r heddlu a phartneriaid i chwarae rhan weithredol mewn datrys ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi’i sefydlogi.
Dywedodd y Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Jess Thomas, “Mae tanysgrifio i’r Addewid Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn dangos ein bod wedi ymrwymo i adnabod a chefnogi dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae’n dilysu ein brwdfrydedd i gydweithio er mwyn dod ag ymddygiad gwrthgymdeithasol i ben, yn ogystal â phenderfynoldeb diysgog i atal ymddygiad o’r fath rhag digwydd yn y dyfodol.
“Yr ydym wedi cofleidio ysbryd y broses Sbardun Cymunedol ac wedi bodloni ein dyletswyddau statudol i’r gymuned.
“Yr ydym wedi sicrhau bod ein proses yn cwmpasu amserlenni penodol ar gyfer diweddaru’r dioddefwyr, a phennir pwynt cyswllt i’r dioddefydd ar gyfer y broses.”
Sefydlwyd yr addewid i herio camsyniadau o gwmpas y Sbardun Cymunedol – a elwir hefyd yn adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol – sy’n arf ar gyfer helpu dioddefwyr sydd wedi adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond sydd dal yn dioddef.
Y mae hefyd yn helpu sefydliadau i greu polisïau cynhwysol a chadarn sy’n ei gwneud hi’n haws i ddioddefwyr alw ar y Sbardun Cymunedol.
Dywedodd Mrs Thomas: “Mae Sbardun Cymunedol yn rhoi cyfle i’r dioddefydd ofyn am adolygiad o’i achos os ydyw wedi adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol deirgwaith neu fwy yn ystod y chwe mis diwethaf wrth yr heddlu, awdurdod lleol neu landlord, ac yn teimlo nad oes unrhyw gamau effeithiol wedi’u cymryd.
“Mae dioddefwyr sydd wedi adrodd am drosedd neu ddigwyddiad casineb i’r heddlu hefyd yn medru gwneud cais am adolygiad o’u hachos.”
Mae dau sbardun wedi’u ceisio yn yr ardal heddlu eleni – un ohonynt ar gais yr heddlu – a rhoddir hyfforddiant i dimoedd plismona bro er mwyn sicrhau bod pob swyddog ac aelod staff yn ymwybodol o’r broses.
Drwy lofnodi’r addewid, mae’r heddlu wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o’r Sbardun Cymunedol, sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn gwybod sut y gallant alw arno, a’i osod fel cynsail o ran rhoi dioddefwyr yn gyntaf.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Claire Parmenter: “Mae’n dda gennyf fod gwaith sy’n cael ei wneud gan swyddogion a staff mewn perthynas â’r Sbardun Cymunedol wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon.
“Gwyddwn y gall achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych gael effaith negyddol ar fywydau pobl, a bydd ymateb i’r digwyddiadau hyn a chefnogi dioddefwyr yn parhau’n flaenoriaeth allweddol inni.
“Rwy’n ddiolchgar bod ein gwaith o ran rhoi cyfle i ddioddefwyr sicrhau bod eu hachos yn cael ei ystyried yn briodol yn derbyn cydnabyddiaeth.”
Dywedodd Rebecca Brown, Prif Weithredwr Cymorth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol: “Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gweithio’n agos â Chymorth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol er mwyn datblygu gweithdrefn a pholisi Sbardun Cymunedol cynhwysfawr.
“Maen nhw wedi dangos eu hymrwymiad diysgog tuag at roi dioddefwyr wrth galon eu strategaeth plismona bro a dod â diwedd i ddioddefwyr bregus ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dioddef yn dawel yn rhagweithiol.”