Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi diwrnod cenedlaethol i gofio’r rhai hynny sydd wedi marw yn ystod y pandemig, ac i ddangos cefnogaeth i bawb sydd wedi dioddef profedigaeth.
Dan arweiniad yr elusen diwedd oes Marie Curie, ac i’w gynnal ar ddydd Mawrth, 23 Mawrth – sef blwyddyn union ers i’r DU gychwyn y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf – mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ei ymrwymo i gefnogi’r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod, ochr yn ochr â nifer fawr o sefydliadau, Aelodau Seneddol, ac enwogion sy’n cefnogi’r diwrnod.
Mae Marie Curie’n amcangyfrif bod dros dair miliwn o bobl wedi dioddef profedigaeth ers i’r pandemig gychwyn, ond nid yw nifer ohonynt wedi gallu dweud ffarwel yn iawn i’w hanwyliaid na galaru.
Bydd y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod yn rhoi munud i’r genedl a chymunedau gofio, galaru a dathlu pawb sydd wedi marw yn ystod yr amser hwn a dangos cefnogaeth i’n teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr sy’n galaru.
Meddai’r Prif Gwnstabl Dros Dro (PG/DD) Claire Parmenter: “Dros y flwyddyn ddiwethaf hon, mae nifer ohonom wedi profi colled mewn rhyw ffordd – oherwydd Covid ac achosion eraill.
“Rydw i wedi bod yn dyst i’r boen y mae nifer ohonom yn ei ddioddef, y trugaredd rydym yn ei ddangos i eraill a’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n ein huno ni.
“Byddwn ni fel teulu plismona yn parhau i gefnogi ein cymunedau drwy’r amserau anodd iawn hyn. Ar y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod, byddwn yn cymryd ysbaid i fyfyrio ar y rhai hynny sydd wedi marw a chreu cyswllt gydag eraill sydd wedi dioddef profedigaeth.”