Stamp amser presennol: 13/08/22 09:33:27
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCauCysyltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

dyfed-powys-header-logo

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Cynllun cofrestru tramor
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Diolch
    • Adborth am y wefan

“Ni all unrhyw beth eich paratoi ar gyfer yr hyn fyddwch chi’n ei weld neu’n ei wneud fel Cwnstabl Gwirfoddol.”

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Ceredigion
Powys
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin

16:19 10/03/2021

Mae Craig Jones wedi bod yn byw dau fywyd ers pum mlynedd bellach.

O ddydd Llun i ddydd Gwener, y mae wedi bod yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ar benwythnosau, y mae wedi bod yn gwisgo lifrai Heddlu Dyfed-Powys, yn barod i ymateb i beth bynnag y daw o’i sifft.

Bu Craig yn un o dîm o Gwnstabliaid Gwirfoddol, gan roi o’i amser fel swyddog heddlu gwirfoddol i gadw ei gymuned yn ddiogel. Wrth iddo baratoi i wisgo ei lifrai am y tro olaf, mae Craig wedi annog unrhyw un sy’n ystyried dod yn Gwnstabl Gwirfoddol i wneud cais.

Meddai: “Rwy’n 50 nawr, ac rwyf wedi cael dwy yrfa – un yn y maes chwaraeon proffesiynol, ac un yn y maes iechyd – ond ni all unrhyw beth eich paratoi ar gyfer yr hyn fyddwch chi’n ei weld neu’n ei wneud fel Cwnstabl Gwirfoddol. Pan mae’r cyhoedd yn eich gweld chi, dydyn nhw ddim yn gweld y llythrennau SG ar eich ysgwydd, ac wrth ichi fagu hyder ac ennill profiad, dydych chi ddim yn ei deimlo chwaith.

“Rydych chi’n dysgu’n gyflym eich bod chi a’ch cydweithwyr bob amser yn gefn i’ch gilydd. Mae’n rhaid ichi wneud penderfyniadau mewn chwinciad sy’n medru newid llwybr digwyddiad yn llwyr, ac rydych chi’n achub bywydau gyda’ch gilydd.

“Does dim byd tebyg iddo.”

Ymunodd Craig â’r Heddlu Gwirfoddol ar ôl iddo ef a’i deulu symud i San Clêr. Gan glywed fod yr orsaf heddlu leol ar fin cau, roedd y tad i ddau eisiau gwneud ei ran dros y dref, ac fe wnaeth gais i fod yn Swyddog Gwirfoddol.

Roedd yn llwyddiannus, a chychwynnodd y chwe wythnos o hyfforddiant cychwynnol sy’n ofynnol cyn ymuno â swyddogion cyflogedig ar ddyletswydd.

“Y peth gorau a ddywedwyd wrthyf oedd nad ydych ar ben eich hun, hyd yn oed pan rydych chi’n annibynnol,” meddai.

“Rydych chi gyda swyddog cyflogedig profiadol, a medrwch ddysgu o’i holl flynyddoedd o brofiad. Maen nhw’n dysgu pethau fel darllen arwyddion bach mewn sefyllfa ichi, a phryd i ddal yn ôl neu neidio i mewn. Rwyf wedi cael cymaint o gymorth gan fy nghydweithwyr gwirfoddol a chyflogedig, ac maen nhw wedi dysgu mwy nag y credais oedd yn bosibl imi.”

Gan gychwyn ei yrfa fel swyddog gwirfoddol yng Nghaerfyrddin, aeth Craig ymlaen i dreulio blwyddyn yn rhan o Dîm Brysbennu Iechyd Meddwl yr heddlu – gan sefydlu pa un ai a fyddai swyddogion sy’n ymdrin â galwadau’n elwa o gymorth arbenigwr yn y maes salwch meddwl – cyn gorffen ei yrfa’n gweithio yng ngorsaf heddlu Dinbych-y-pysgod.

“Roedd gweithio gyda’r tîm brysbennu iechyd meddwl yn wych oherwydd daeth â’m prif swydd a’m gwaith gwirfoddol at ei gilydd,” meddai.

“Un o’r digwyddiadau na fyddaf byth yn anghofio yw’r adeg pan oeddem yn cynnal ymgyrch yng Nghaerfyrddin a chawsom alwad am fachgen a oedd mewn gwewyr yng nghanol y dref. Drwy hap a damwain, dywedodd ei fod yn fy adnabod drwy fy ngwaith gyda’r tîm iechyd meddwl, a dymunodd siarad â mi.

“Siaradais ag ef am ychydig, a gofynnais yn gynnil i swyddog arall alw ambiwlans, a gyrhaeddodd yn dawel heb unrhyw oleuadau na seirenau. Cytunodd i fynd i’r ysbyty pe bawn i yno pan gyrhaeddai, ac arhosodd hynny gyda mi am ei fod yn dangos yr effaith rydyn ni’n medru ei chael ar bobl.”

Yn ystod ei bum mlynedd mewn lifrai, mae Craig wedi gwneud dros 100 arést ac wedi rhoi mwy na 1100 o oriau i’r heddlu wrth iddo ymdrin â digwyddiadau sy’n amrywio o chwilio am unigolion coll ac ymgyrchoedd diogelwch y ffyrdd, i gadw trefn ar ddigwyddiadau yn y dref ac ymgysylltu â’r gymuned.

“Mae pobl wedi poeri arnaf a’m pwno, mae rhywun wedi anelu cyllell Stanley tuag ataf, rwyf wedi mynd i leoliadau hunanladdiad, rhoi stop ar bobl yn ymladd – fwy neu lai unrhyw beth fedrwch chi feddwl amdano,” meddai. “Yr ydym yn gweld pobl ar eu gwaethaf, ac mae gennym gyfle i geisio’u helpu yn y ffordd orau fedrwn ni.

“Ar y llaw arall, mae’r pethau bach, megis gweld y wên ar wynebau plant pan rydych chi’n cymryd yr amser i siarad gyda nhw neu’n gadael iddynt wisgo’ch het ar gyfer llun. Yr ydym yn gweld pob ochr o’r gymuned.”

Roedd un achos y mae Craig yn arbennig o falch o fod yn rhan ohono’n ymwneud â gyrrwr a oedd wedi bod yn yfed a gafodd ei ddwyn gerbron y llys. Diolch i’w gefndir yn y gwasanaeth iechyd a gwaith sy’n gysylltiedig ag alcohol, roedd modd iddo wrthbwyso achos yr amddiffyniad yn gryf, a rhoddwyd gwaharddiad hir i’r troseddwr.

“Roedd cymryd rhywun oddi ar y ffordd a oedd yn peri cymaint o berygl i eraill yn teimlo fel llwyddiant mawr,” meddai.

Wrth iddo ymddeol oherwydd ymrwymiadau gwaith, dywed Craig nad yw’n difaru dim – heblaw am beidio â gwybod am fodolaeth yr Heddlu Gwirfoddol yn gynt – oherwydd mae ei amser fel Swyddog Gwirfoddol wedi cael effaith mor gadarnhaol arno ef a’i deulu.

“Mae’n deulu arbennig iawn i fod yn rhan ohono,” meddai. “Ymunais oherwydd fy nheulu a’m dyhead i gael presenoldeb heddlu yn San Clêr, a’r hyn a gefais oedd teulu heddlu.

“Does dim teimlad gwell na gwneud rhywbeth dros eich cymuned eich hun, ac ni waeth pa beth bynnag yw’ch oed, byddwch chi’n dysgu llawer am eich hun drwy wneud hyn – pethau nad oeddech yn gwybod o’r blaen. Byddwch chi’n defnyddio sgiliau ar bob sifft a fydd yn trosglwyddo i’ch bywyd arall.

“Rwy’n gweld ei eisiau’n barod, ac rwy’n gwybod y byddaf yn gweld ei eisiau hyd yn oed mwy wrth i amser fynd heibio, ond rwyf mor falch fy mod i wedi cael y cyfle i wneud hyn dros y bum mlynedd diwethaf – bu’n brofiad gwych.”

* Mae Heddlu Dyfed-Powys yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer ei Heddlu Gwirfoddol. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais, cliciwch yma  

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2022. Cedwir pob hawl.