Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:43 05/03/2021
Mae’r Parchedig Tom Evans (Tom i swyddogion a staff) yn dipyn o arwr yn Heddlu Dyfed-Powys. Mae wedi rhoi ei amser o’i wirfodd a gydag angerdd i wasanaethu fel prif gaplan yr heddlu dros y naw mlynedd ddiwethaf – gan gefnogi swyddogion a staff yn ystod adegau gwaethaf eu bywydau ac o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol, yn ogystal â llawenhau a dathlu gyda nhw yn ystod yr amserau gorau.
Mae wedi bod yno ar gyfer y cyfan, a gwyddai pawb ei fod ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn – ymrwymiad anhygoel o ystyried mai rôl wirfoddol oedd hi. Yn 2019, treuliodd 1,000 o oriau’n gwirfoddoli, ac roedd hi’n ddigon cyffredin iddo wneud cymaint â hyn mewn blwyddyn.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi derbyn ambell alwad yn hwyr y nos gan bobl mewn gwewyr, ac mae wedi aros i fyny tan oriau mân y bore pan oedd yr unigolyn ar ben arall y ffôn ei angen. Derbyniodd alwadau hefyd pan oedd ar wyliau dramor gyda’i wraig, Marilyn. Ond dyna hanfod Tom. Does dim byd byth yn ormod o ffwdan iddo, ac mae’n wirioneddol pryderu’n fawr am bawb yn y sefydliad.
Gellir rhoi’r clod iddo am sicrhau bod y Gaplaniaeth aml-ffydd nawr yn rhan annatod o’r sefydliad. Mae’n arwain tîm o 19 caplan nodedig, gan gynnwys Imam, sy’n gwirfoddoli ledled yr ardal heddlu – ac mae’n barod i ddweud mai cydymdrech pawb ohonynt sydd wedi sicrhau eu llwyddiant parhaus.
Gan sôn am ei benderfyniad i ymddeol, meddai: “O ystyried popeth, rwy’n credu bod yr amser yn briodol i adael, er mor drist ydwyf i wneud hynny. Rwy’n credu ei fod yn synnwyr cyffredin yn fy oed i. Ymddeolais o gyflogaeth llawn amser yn 2008 - ar ôl gyrfa ddiddorol a gwerth chweil. Roeddwn yn y weinidogaeth yn gyntaf, yna symudais ymlaen i faterion datblygu’r byd gyda Chymorth Cristnogol. Yna, symudais ymlaen i’r cyfryngau, gan ddod yn gynhyrchydd radio ac yn gyflwynydd rhaglenni a oedd yn canolbwyntio ar grefydd,. Yn olaf, gweithiais fel darlithydd mewn Prifysgol.
Ond mae gwirfoddoli fel caplan heddlu wedi bod yn brofiad arbennig - un na fyddwn wedi ei golli am y byd. Bu’n fraint o’r mwyaf, a medraf ddweud â’m llaw ar fy nghalon mai’r naw mlynedd diwethaf fu rhai gorau fy mywyd gwaith. Bydd y gyfeillach a’r cyfeillgarwch a ganfûm pan ymunais â’r teulu cymunedol hwnnw, sef Heddlu Dyfed-Powys, yn aros gyda mi am byth - rwyf wedi cwrdd â phobl arbennig iawn sydd wedi newid fy mywyd.”
Mae’r swydd wedi newid cryn dipyn yn ystod y naw mlynedd, ac mae’r caplaniaid yn rhan bwysig iawn o ymateb gweithredol yr heddlu. Ond bu’n rhaid iddo weithio’n galed iawn ar y cychwyn i ennill ffydd swyddogion a staff, a oedd o bosibl ychydig yn sinigaidd ac wedi gochel rhag ymddiried ynddo. Gwrthododd gael swyddfa oherwydd teimlai ei fod yn bwysig iddo fod yng nghwmni swyddogion a staff a bod o’u cwmpas fel eu bod nhw’n medru dod i’w adnabod, a chael digon o gyfleoedd i gychwyn sgyrsiau anffurfiol ar y tir. Rhan o’i lwyddiant (a llwyddiant y tîm) yw’r ffaith ei fod bob amser wedi cynnig clust i wrando i bawb, heb farnu dim, p’un ai oes ganddynt ffydd ai peidio, ac mae’n siarad â phawb mewn iaith maen nhw’n medru deall.
Mae Tom wedi mwynhau natur amrywiol y rôl, a oedd yn ehangach o lawer na chefnogi staff yn eu bywydau gwaith dyddiol yn unig. Gofynnwyd iddo gynnal gwasanaethau angladdol ar gyfer staff a’u hanwyliaid, y mae wedi priodi ambell bâr, bendithio modrwyau priodas, ymweld â staff yn yr ysbyty, cynnal ymweliadau cartref, eistedd a rhoi cysur i bobl a oedd yn ddifrifol wael, a sawl peth arall. Y mae wedi bod yng nghanol uchafbwyntiau ac isafbwyntiau pobl - o ran eu gwaith neu eu bywydau personol. Mae aelodau staff sydd wedi ymddeol hefyd wedi estyn allan iddo.
Y mae hefyd wedi cefnogi swyddogion a staff yn ystod rhai o’r achosion mwyaf trasig y bu’n rhaid i’r heddlu ymdrin â nhw - herwgydiad a llofruddiaeth April Jones (lle yr arhosodd yn ardal Machynlleth am bythefnos) a’r tân mewn ffermdy yn Llangammarch lle y collodd tad a’i bump o blant eu bywydau yn arbennig. O ganlyniad i’w waith, mae wedi derbyn Cymeradwyaeth y Prif Gwnstabl a Thystysgrif o Werthfawrogiad. Hefyd, derbyniodd wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yng ngwobrau’r heddlu yn 2017. Er ei fod yn teimlo’n freintiedig ac yn falch iawn derbyn y gwobrwyon hyn, dywed yn glir mai’r bobl y mae wedi’u helpu yn ystod eu tristwch a’u heriau sy’n golygu fwyaf iddo, ac mae gwybod ei fod wedi gwneud gwahaniaeth iddynt yn ddigon o gydnabyddiaeth.
Mae Tom yn cael ei ystyried yn arwr gan sawl tîm ac unigolyn – ac roedd hyn yn arbennig o wir am y Tîm Adnabod Dioddefwyr Trychineb a anfonwyd i leoliad y tân trasig yn Llangammarch.
Roedd Cwnstabl 154 Thomas Draycott yn rhan o’r tîm, ac meddai: “Mae Tom yn un o’r bobl arbennig hynny sy’n gwneud i bobl deimlo’n gyfforddus yn syth. Medrwch deimlo ei ddiddordeb diffuant mewn pobl a chi fel unigolyn pryd bynnag y siaradwch ag ef. Ymwelodd â’n tîm Adnabod Dioddefwyr Trychineb, a oedd yn gweithio ar yr adferiad hir yn dilyn y tân yn Llangammarch, sawl gwaith, ac roedd yn glir mai pwrpas ei ymweliadau oedd ein cefnogi ni’n bersonol. Â ninnau’n gweithio oriau hir i ffwrdd o adref am wythnosau dan amodau gwaith anodd iawn a thywydd eithafol, roedd ymagwedd gadarnhaol a chynhesrwydd Tom yn golygu’r byd inni, a daeth yn dipyn o arwr o fewn y tîm ymhen dim. Rhoddodd pob un o’i ymweliadau hwb yr oedd mawr ei angen arnynt i’r tîm. Mae hyd yn oed pethau syml fel ei allu anhygoel i gofio enw pawb yn ychwanegu at ei gyffyrddiad personol. Bydd colled fawr ar ei ôl.”
Ar ddiwedd yr adferiad yn lleoliad y digwyddiad, braint i Tom oedd derbyn cais gan y swyddogion blinedig i gynnal gwasanaeth i ddiweddu a choffau yn yr adfeilion – gwasanaeth ysgytwol na fydd byth yn ei anghofio, ac mae’n cofio nad oedd yr un lygad yn sych.
Nid yn unig y mae Tom wedi meithrin y gaplaniaeth yn Heddlu Dyfed-Powys, ond yr oedd hefyd yn ganolog o ran ei chyflwyno i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Fel gwasanaeth brys, yr oeddent wedi gweld y manteision a gyflwynir gan y Gaplaniaeth i staff yr heddlu, ac roeddent eisiau i’r gwasanaeth fod ar gael er lles eu staff nhw. Yn dilyn trafodaethau, cynigiodd Tom gydlynu a hwyluso hyn i’r Ymddiriedolaeth i’w helpu i gychwyn, ac erbyn Ionawr 2020, roedd caplan gwirfoddol wedi cychwyn yn ei swydd. Roedd yr amseru’n briodol iawn, o ystyried y pwysau difrifol a oedd ar fin cael ei osod ar y gwasanaeth brys a’i staff oherwydd y pandemig.
Bu datblygu’r Gaplaniaeth a sicrhau ei hirhoedledd yn flaenoriaeth i Tom, ac mae ei benderfyniad i sicrhau Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewn Astudiaethau Caplaniaeth gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dystiolaeth o hyn. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i bob caplan golau glas yn y DU i astudio ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma, ac yn y pen draw, Gradd Meistr, mewn Astudiaethau Caplaniaeth.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Collins: “Yr ydym yn gwerthfawrogi pob gwirfoddolwr yn Heddlu Dyfed-Powys, ac ni allwn ddiolch digon iddynt am eu cymorth. Ond rwy’n credu y bydd nifer o’m cydweithwyr yn cytuno â mi bod Tom wir yn sefyll allan. Mae’n rhan o dîm sy’n gwneud gwaith neilltuol – ac mae wedi meithrin y Gaplaniaeth i’r llwyddiant y mae’n mwynhau heddiw. Bydd yn anodd llenwi esgidiau Tom, a dangosir ei ymrwymiad tuag at ei datblygu a sicrhau ei llwyddiant yn y dyfodol yn glir yn ei waith ar gyflwyno’r ddiploma mewn astudiaethau Caplaniaeth.
“Mae ein swyddogion a’n staff yn gweld digwyddiadau dirdynnol a thrasig iawn, a phan mae pobl wir angen rhywun i wrando arnynt pan maen nhw’n cael trafferth ymdopi, mae Tom wedi bod yno bob amser, ddydd neu nos. Y mae wedi dod yn dipyn o ffigwr tadol ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, ac mae wir yn cyfoethogi lles yr heddlu. Y mae wedi rhoi ei galon a’i enaid i’r rôl. Mae’r gweithlu bob amser yn dweud wrthyf mai ef yw un o’r bobl ffeindiaf, gofalgar a mwyaf diffuant maen nhw erioed wedi cael y pleser o gwrdd â nhw, a’r gwahaniaeth gwirioneddol y mae wedi gwneud i’w bywydau – tu fewn a thu fas i’r gwaith. Mae pawb ohonom yn drist iawn ei weld yn mynd.”
Ychwanegodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu: “Bu Tom Evans yn wirfoddolwr eithriadol ar gyfer yr Heddlu yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf. Fel caplan, y mae wedi bod yno inni bob amser drwy amserau heriol ac anodd; ddydd a nos. Y mae wedi darparu cymorth a gofal bugeiliol neilltuol i swyddogion a staff a’r gymuned blismona ehangach yn ystod adegau anodd a gofidus.
“Yr wyf wedi fy nharo, ond heb fy synnu o gwbl, gan yr holl ddymuniadau da a anfonwyd at Tom ers iddo gyhoeddi ei benderfyniad i ymddeol. Yr wyf eisiau ychwanegu fy nheyrnged fy hun i’r ffordd y mae wedi ymgymryd â’i ddyletswyddau a nodi ei fod wedi mynd ymhell uwchlaw a thu hwnt i’r hyn y byddid wedi disgwyl iddo ei wneud.
“Byddaf innau a staff o’m swyddfa, a’r teulu plismona estynedig, yn gweld ei eisiau’n fawr. Dymunaf ymddeoliad hir, iach a hapus iddo.”
Mae cynrychiolwyr Unsain a’r Ffederasiwn Heddlu hefyd yn gweithio’n agos â’r Caplaniaid ac yn cydnabod y rôl arwyddocaol maen nhw’n medru chwarae o ran lles swyddogion a staff. Dywedodd y Prif Arolygydd Gareth Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Dyfed-Powys: “Rwyf wedi adnabod Tom ers sawl blwyddyn, yn ystod fy nghyfnod yng Ngheredigion ac ers cymryd drosodd fel Cadeirydd y Ffederasiwn. Rwyf wedi cael y pleser o’i adnabod yn broffesiynol ac yn bersonol, ac rwyf bob tro wedi ei ystyried yn un hawdd mynd ato, gofalgar a bob amser yn barod i wrando.
“Yr wyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y cymorth mae wedi rhoi i swyddogion a staff sydd wedi profi iechyd gwael, profedigaeth, problemau personol neu broblemau sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Mae’n gadael bwlch mawr yng nghaplaniaeth yr heddlu, ac fe welir ei eisiau ar draws yr heddlu. Dymunaf y gorau iddo ef a Marilyn ar gyfer y dyfodol.”
Mae Karen Phillips, Ysgrifennydd Cangen Unsain, a Phil Williams, Cadeirydd Cangen Unsain, wedi mynegi eu diolch diffuant i Tom am ei gefnogaeth ddiysgog i’w haelodau ar adegau pan oeddent ei angen, ac yn wir, y gefnogaeth y mae wedi rhoi iddyn nhw’n bersonol yn eu swyddi i helpu eu haelodau.
Gan adlewyrchu, gorffennodd Tom drwy ddweud: “Mae swyddogion a staff yr heddlu’n grŵp o bobl arbennig iawn. Maen nhw’n profi digwyddiadau trawmatig sy’n newid bywydau’n rheolaidd. Mae rhai pobl yn cael yr argraff eu bod yn galed fel glo carreg. Ond rwyf bob amser yn dweud wrth bobl am edrych tu hwnt i’r lifrai.
Tu fewn i’r lifrai, mae bod dynol, llawn emosiynau, fel chi neu fi. Bu adegau pan mae swyddogion wedi dweud wrthyf y byddent wedi gadael y gwasanaeth heddlu heblaw am y gefnogaeth a dderbynion nhw gan y Gaplaniaeth. A’r bobl eithriadol hynny sydd wedi dod o hyd i’r cryfder a’r ymrwymiad i barhau i wasanaethu eu cymunedau sydd wedi gwneud fy ngwaith i fel caplan yn werth chweil.”