Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd cerddwr mynyddoedd, a oedd wedi mynd allan am dro am 15 munud, ar goll am 6 awr ar fynydd ar ôl colli ei ffordd mewn glaw a niwl trwm.
Mae’r cerddwr profiadol, sydd fel arfer wedi paratoi ar gyfer pob sefyllfa, wedi diolch i Heddlu Dyfed-Powys a Thîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau am ddod o hyd iddi pan oedd wedi colli pob gobaith.
Mae’r ddynes 50 oed, sydd wedi gofyn am gael aros yn ddienw, wedi rhannu ei phrofiad er mwyn annog pobl i beidio â chymryd yn ganiataol bod cerdded ar ben eich hun yn ffordd ddiogel o gael ymarfer corff yn ystod y cyfyngiadau Covid-19 ar ôl i’w gweithredoedd rhoi swyddogion a gwirfoddolwyr mewn perygl.
Meddai: “Aeth popeth a allai fod wedi mynd o’i le’r diwrnod hwnnw o’i le, a fi yw’r ddynes fwyaf lwcus yn y byd i fod yma heddiw.
“Yr hyn sy’n anodd iawn dod i delerau ag ef yw’r ffaith fy mod i mor ymwybodol o beryglon y mynydd. Rwyf bob amser wedi bod yn ymwybodol o ba mor hawdd ydyw i fynd ar goll, ac roedd yn rhaid imi gyfaddef fy mod i’n un o’r bobl hynny a aeth allan heb baratoi.
“Nid yn unig y rhoddais fy hun mewn perygl, ond rhoddais yr heddlu a’r tîm achub mynydd mewn perygl hefyd. Gwnaeth y ffaith eu bod wedi gorfod dod allan i chwilio amdanaf o dan yr amodau hynny, â’r perygl o Covid-19 ar ben hynny, imi deimlo’n euog iawn.”
Aeth y ddynes, sy’n fam i ddau o blant, allan am dro cyflym gyda’i chi ar y Mynydd Du ger Brynaman, gan adael y bag diogelwch mae hi fel arfer yn cario pan mae’n mynd allan am dro hir ar ôl. Pe bai’r bag gyda hi, byddai wedi bod yn barod ar gyfer argyfwng gan fod gwefrwr ffôn, bwyd, dŵr ac eitemau eraill ynddo.
Gan barcio mewn man cyfarwydd, dechreuodd gerdded ar hyd llwybr yr oeddent wedi cerdded ar ei hyd droeon o’r blaen. Â hithau’n anymwybodol o rybudd tywydd a oedd mewn grym, cafodd ei dal yn sydyn gan wynt cryf a glaw trwm.
“Ceisiais droi nôl i’r car, ond cefais fy ngwthio i’r llawr gan y gwynt,” meddai. “Digwyddodd hynny sawl gwaith, gan fy nrysu’n llwyr.
“Yna, dechreuodd fwrw glaw, ac roedd yn bwrw fy wyneb fel bwledi. Ceisiais fynd yn ôl i’r car, ond roeddwn i’n methu dod o hyd iddo.
“Ar ôl ychydig, cyrhaeddom fan corslyd, ac roeddwn i’n gwybod o deithiau blaenorol ein bod yn bell o’r car.
“Dyna pryd y sylweddolais nad oeddem yn mynd i gyrraedd nôl.”
Erbyn 6 o’r gloch y noson honno, doedd hi ddim yn gallu gweld mwy nag ychydig fedrau o’i blaen, a gyda batri ei ffôn i lawr i 19%, gwyddai fod angen iddi alw am help.
Gan gysgodi mewn twll i’w hamddiffyn rhag yr elfennau, gwiriodd yr ap ‘What Three Words’, sy’n cynhyrchu tri gair i alluogi defnyddwyr i rannu eu hunion leoliad, a galwodd 999.
Fodd bynnag, doedd ganddi ddim syniad bod y lleoliad a gafodd gan yr ap yn anghywir oherwydd signal ffôn gwael – gan anfon yr heddlu a gwirfoddolwyr o’r tîm achub mynydd i’r cyfeiriad anghywir.
“Codais bob hyn a hyn fel nad oeddwn yn cael hypothermia, a gweiddais ‘helo’ rhag ofn bod rhywun o gwmpas,” meddai.
“Doeddwn i ddim yn gallu gweld unrhyw beth. Roedd popeth islaw imi’n ddu fel bola buwch, ac roedd niwl trwchus uwch fy mhen.
“Ffoniais 999 eto i ddweud wrthynt fy mod i dal yn yr un man. Anfonasant ddolen ataf ar gyfer dod o hyd i’m cyfesurynnau system lleoli fyd-eang, ond methodd fy ffôn â’u llwytho.
“Gwiriais yr ap ‘What Three Words’ eto a sylweddolais fy mod i mewn man hollol wahanol i’r man lle’r oeddent yn credu yr oeddwn.
“Yna, daeth yr alwad i ben yn sydyn.”
Ychydig funudau’n ddiweddarach, derbyniodd alwad gan y tîm achub mynydd, ond fel yr oeddent yn ffonio, collodd batri ei ffôn bŵer.
Cerddodd allan i’r awyr agored er mwyn bod yn fwy amlwg, ond roedd y dirwedd yn arw, a’r gwelededd mor wael, bu’n rhaid iddi ildio.
“Yn y pellter byr a gerddom, syrthiais mor aml, ni fentrais barhau,” meddai.
“Yn y diwedd, gorweddom ar y borfa. Credais ein bod ni’n mynd i farw yno.”
O’r diwedd, clywodd sŵn isel, ond doedd hi ddim yn medru dweud o ba gyfeiriad yr oedd yn dod. Yna, gwelodd rhywfaint o olau yn y pellter.
“Gafaelais yn y ci a dechreuais redeg tuag ato,” meddai.
“Erbyn hynny, roeddwn i’n gweiddi a sgrechian, ac yn sydyn, roedd mwy o oleuadau. Roedd un o’u tortshis wedi dal fflach o lygaid y ci. Ni fyddent wedi fy ngweld i fel arall.
“Meddyliais, ‘ry’n ni’n mynd i fyw’, a theimlais ryddhad mawr y byddwn yn gweld fy mhlant eto.”
Ar ôl taith o 40 munud yn ôl i’r car mewn amodau gwael, o’r diwedd, roedd hi ar ei ffordd adref - chwe awr ar ôl gadael ei char.
Gan ddisgrifio ei phrofiad fel un mwyaf brawychus ei bywyd, mae hi wedi rhannu ei stori er mwyn atgoffa pobl am beryglon cerdded mynyddoedd a pha mor gyflym mae amodau’n medru newid.
“Yr holl amser, roeddwn i’n meddwl pam nad oeddwn i wedi dod â’m bag,” meddai. “Dyna gamgymeriad mwyaf fy mywyd.”
“Roeddwn i fel un o’r twpsod hynny rwy’n gweiddi arnyn nhw ar y newyddion am ddringo’r Wyddfa mewn fflip-fflops. Bydd hyn byth yn digwydd eto, a byddaf yn ddiolchgar am byth i’r swyddogion heddlu a’r gwirfoddolwyr a roddodd eu bywydau mewn perygl i achub fy un i.
“Os oes unrhyw un dysgu un peth o’m stori i, rwy’n gobeithio y byddant yn dysgu peidio gwneud yr un camgymeriad â mi.”
Dywedodd y Rhingyll Dylan Davies o Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd yr amodau ar y noson arbennig hon yn hynod beryglus, a chawsom ni fel heddlu ein gorfodi i ddod â’n chwiliad i ben.
“Mawr yw ein diolch i Dîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau, a lwyddodd i ddod o hyd iddi serch yr heriau.
“Wrth atgoffa pobl am y cyfyngiadau sydd mewn grym oherwydd y pandemig y Covid-19, mae pobl yn gofyn inni’n aml beth yw’r perygl o gerdded ar ben eu hun lle nad ydynt yn debygol o ddod i gysylltiad ag eraill. Mae’r digwyddiad hwn yn dangos y gallech beryglu’ch hun ac eraill, er eich bod chi’n credu’ch bod chi’n ddiogel.”
*Gellir gofyn am Dimoedd Achub Mynydd mewn argyfwng drwy alw 999 a gofyn am yr heddlu yn gyntaf. Bydd y digwyddiad yn cael ei asesu, ac os yn briodol, bydd yn cael ei gyfeirio at y Tîm Achub Mynydd agosaf.