Stamp amser presennol: 06/06/26 03:03:53
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Cau y bar cyhoeddiad

Rhybudd Hysbysiad

Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu – wrth galon ein cymunedau

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 16:36 08/03/2021

Nhw yw’r wyneb cyfarwydd mewn gwisg du a glas, a phresenoldeb gweledol yr Heddlu sy’n tawelu’r meddwl ar draws Cymru ers 2003. Yr wythnos yma, byddwn yn eich cyflwyno i rai ohonynt, ac yn rhoi mewnwelediad i’r gwaith amrywiol maent yn ei wneud wrth galon ein cymunedau i wneud nhw’n lefydd gwell a mwy diogel.

Yn Heddlu Dyfed-Powys yn unig, ac mi fydd yr un peth yn wir yn yr heddluoedd arall, mae SCCH wedi derbyn canmoliaeth gan y Prif Gwnstabl am ystod o weithgaredd yn cynnwys: ymgysylltu ȃ’r cyhoedd, delio ȃ ymdrechion hunan laddiad, caethiwo rhai dan amheuaeth, rhoi cymorth achub bywyd ayyb. Maent hefyd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Blynyddol y Llu am eu ymddygiad ysbrydoledig, dewrder a thosturi. Yng ngwobrau llynedd, enilloddd 14 o SCCH mewn nifer o gategoriau: y Wobr Dewrder, Gwobr Datrys Problemau, Tȋm y Flwyddyn, a’r wobr #WeCare sy’n cael ei bleidleisio amdano gan y cyhoedd.

Maent yn lleihau’r ofn o drosedd, yn cadw pobl yn ddiogel rhag niwed ac yn cynyddu ymddiriedaeth a hyder y gymuned trwy weithio gyda’r gymuned leol i daclo materion sy’n achosi pryder lleol.  

Mae SCCH yn hanfodol I lwyddiant plismona bro ac yn ddolen rhwng cymunedau lleol a’r heddlu. Mae’n yrfa sy’n chwarae rȏl ganolog yn y cymunedau hynny, ac yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn – ac i’r rhai mwyaf bregus.

Mae hyn wedi bod yn amlwg yn y rhan bwysig meant wedi chwarae yn ystod yr argyfwng iechyd, Coronafeirws. Maent wedi darparu yn gyson ymgysylltu positif ȃ chymunedau, defnyddio cynlluniau heddlu gogwydd problem i fynd i’r afael ȃ rheoli’r cyfnodau aros adref/ teithio hanfodol o’r pandemig. Maent hefyd wedi mynd i’r afael ȃ phryderon cymunedol trwy batrolau wedi eu targedu ar y cyd ȃ phartneriaid. Fe wnaeth y lluoedd yng Nghymru hefyd roi pwerau ychwanegol i SCCH i orfodi rheoliadau a rhoi hysbysiadau cosb benodedig mewn amgylchiadau eithriadol.  

Mae’n wahanol i fod yn Heddwas gwarantedig, gan nad oes ganddynt y pŵer i arestio, ond maent yn gallu caethiwo pobl pan fod angen, ac mae ganddynt bwerau dynodedig ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, tybaco a alcohol, a hysbysiadau cosb benodedig er engraifft. Mae’r rȏl  yn cefnogi heddweision mewn amrywiaeth eang o senarios ac maent wedi cymryd ymlaen nifer o rolau arbenigol fel datrys problemau a seibrdroseddu.  

Dywedodd Y Dirprwy Weinidog a Prif Chwip, Jane Hutt: “Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu ar draws Cymru ers 2011, ac yn y gyllideb diweddar fe wnaethom gadarnhau ein hymrwymiad ar gyfer 2021-22.

“Mae SCCH yn rhoi presenoldeb heddlu gweledol ar lefel lleol, yn tawelu meddwl y cyhoedd, yn deall anghenion lleol, yn pontio’r bwlch rhwng cymunedau a heddluoedd, ac yn helpu adeiladu Cymru mwy diogel a chynhwysol.

“Maent wedi gwneud gwahaniaeth anferth ar draws Cymru yn ystod yr ymateb i pandemig Covid-19 trwy helpu I daclo pryderon lleol a chefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Rwyf eisiau cymeradwyo a dathlu’r gwaith maent wedi ei wneud.”  

Ychwanegodd y Comisiynydd Alun Michael, Arweinydd Cymru dros Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd ar SCCH: “Mae rȏl y SCCH yn cael ei werthfawrogi’n aruthrol gan gymunedau ym mhob cwr o Gymru, ac yn hanfodol yn y modd mae’r pedwar heddlu yng Nghymru yn cynnal plismona bro trwy gyfnod lle mae Llymder wedi arwain rhai heddluoedd yn Lloegr I symud I ffwrdd o ran o blismona yr ydym ni’n ystyried yn anhepgor. Mae’n rȏl sy’n cael ei werthfawrogi ynddo’i hun – tra fod swyddogion gwarantedig yn aml yn cael eu defnyddio I ymateb I heriau a digwyddiadau sy’n aml yn ddybryd ac yn arwyddocaol, pwrpas y SCCH yw I fod yna yn y gymuned bob amser – ac mae’n gweithio. Mae eu rȏl yn driphlyg: cyfathrebu trwy siarad ȃ cymunedau a gwrando I’r hyn mae’r cyhoedd yn ei ddweud, datrys problemau trwy weithio drwy materion bob dydd sy’n achosi pryder yn y gymuned, rhoi’r grym I gymunedau I helpu bobl leol I wella ansawdd bywyd lleol. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn golygu fod gennym dwbl y nifer o SCCH yn heddluoedd Lloegr ac mae hynny yn atgyfnerthu’r tȋm plismona cyfan yn eu rȏl o helpu ein cymunedau I fod yn gryf, diogel a hyderus. Ac mae’r storiau unigol o’r gwaith mae SCCH yn gwneud yn wirioneddol ysbrydoledig – gan ategu y gwaith gwych mae ein swyddogion a gweddill staff yr heddlu yn gwneud yng Nghymru.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter, Arweinydd Plismona ar Swyddogion Cefnogi Cymunedol ar draws Cymru: “Mae SCCH yn chwarae rȏl hanfodol yn ein cymunedau, ac rwy’n gwybod pa mor werthfawr maent a’r gwaith gwych maent yn ei wneud I atal trosedd a chysuro ein cymunedau ar draws Cymru. Mae’r pedwar llu yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru sy’n aiannu cyfran o SCCH dros Gymru gyfan. Mae hyn yn cynorthwyo i gynnal yr adnodd pwysig yma, mewn cyfnod lle fod gan Heddluoedd nifer o ofynion cyllid sy’n cystadlu a’u gilydd. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu eu gwaith, ac yn cydnabod eu hymrwymiad wrth I ni gyd weithio gyda’n gilydd I leihau niwed a throsedd yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen I glywed straeon rai o’n SCCH ymroddedig a phroffesiynol yr wythnos yma – efallai fydd pobl yn synnu ar yr ehangder ac amrywiaeth  o’u gwaith a’u heffaith arwyddocaol ar ein cymunedau.” 

Yn gyntaf, dyma gyflwyno ddau SCCH o Heddlu Dyfed-Powys – SCCH Joshua Chapman a SCCH Lowri Evans.

 

Cwrdd â'n SCCH

Josh Chapman cropped.jpg

Mae Josh yn Swyddog Ymgysylltu ȃ’r Gymuned o fewn Tȋm Plismona Bro Llanelli Gwledig. Cafodd y rȏl arbenigol yma ei greu llynedd ar ol I Heddlu Dyfed-Powys gynnal adolygiad o strwythurau Timoedd Plismona Bro.

Dywedodd Josh: “Yr hyn dwi’n ei fwynhau mwyaf  am y swydd, yw’r ffaith nad ydych byth yn gwybod beth rydych yn mynd I fod yn delio ȃ. Mae bob dydd a bob digwyddiad rydym yn delio ȃ yn wahanol. Rwyf hefyd yn mwynhau adeiladu perthnasoedd gweithio da a ymddiriedaeth gyda’r aelodau mwyaf bregus o’r gymuned rwy’n gwasanaethu, sef y rhai dwi’n teimlo na fyddai ganddynt lais hebddo ni.”  

Yn ei rȏl mae’n meddwl am sut I ddefnyddio ei sgiliau ymgysylltu yn ddyddiol i gyrraedd ei gynulleidfa yn y modd mwyaf effeithiol a buddiol I nhw. Ac ers y pandemig maent wedi gorfod gwneud pethau ychydig yn wahanol. Ar gyfer wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb, penderfynnodd Josh gynhyrchu fideo wedi ei dargedu at eu cymuned Llanelli Wledig trwy gyfrif Twitter y tȋm. roedd gan y cyfrif dros 1000 o ddilynwyr lleol, ac roedd fideos wedi bod yn llwyddiannus I rannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth yn flaenorol. Fe wnaeth i weddill y tȋm gymryd rhan I gyfathrebu’r neges bwysig o ddweud na I drosedd casineb a gweithio gyda’u gilydd i wneud y gymuned yn fwy cynhwysol a diogel, gan ei fod yn ymwybodol fod y rhan fwyaf ohonynt yn wynebau cyfarwydd i’r gynulleidfa. Ond fe wnaeth hefyd gydnabod yr amrywiaeth yn ei gymuned a’u gofynion ieithyddol – felly er mwyn cyrraedd cymaint a phosib o bobl fe ddefnyddiodd Cymraeg, Saesneg, Pwyleg a Iaith Arwyddion Prydain yn y fideo. Byddai hyn yn annog nhw I fedru riportio troseddau a digwyddiadau casineb yn hyderus i’r tȋm, yn y modd roeddynt fwyaf cyffyrddus i gyfathrebu. Mae’r fideo wedi cael ei wylio tua 2000 o weithiau – ond yn bwysicach mae e wedi galluogi dechrau sgwrs yn y gymuned ynghylch y mater anodd, brawychus yma, a gwneud nhw’n ymwybodol fod riportio yn gwneud gwhaniaeth – I nhw, eu ffrindiau a’u bywydau.   

Roedd Josh wrth ei fodd pan gwblhaodd yn llwyddiannus cymhwyster lefel 1 Iaith Arwyddion Prydain – a hynny mewn 12 diwrnod yn unig. Mae e ar hyn o bryd yn gweithio’r eiddgar ar gwblhau cymhwyster lefel 2.

Gan adlewyrchu, dywedodd: “Tra’n gweithio yng ngorsaf Heddlu Llwynhendy un diwrnod, fe wnaeth teulu byddar ddod i’r orsaf. Roeddynt angen siarad ȃ SCCH I riportio troseddau, ond hefyd eisiau cyngor am Covid. Roeddwn yn falch iawn I fedru defnyddio fy sgiliau Iaith Arwyddion Prydenig I wneud iddynt deimlo’n gyffyrddus, tra’n sgwrsio gyda nhw I gael y wybodaeth a chynnig cyngor. Mae’n bwysig iawn I fi bod y gymuned fyddar yn cael yr un cyfleoedd a gweddill y gymuned o ran rhwyddineb cysylltu ȃ’r heddlu. Er mwyn cynnal fy hyder ac adeiladu ar fy sgiliau, ers hynny rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda aelodau byddar o’r gymuned yn ardal Llanelli wledig, ac rydwyf bob amser yn chwilio am gyfleoedd I adeiladu’r bond ymhellach rhwng y gymuned fyddar a’r heddlu yn fy mro. Rwy’n edrych ymlaen I fynd I Glwb Byddar Llanelli pan fydd cyfyngiadau Coronafeirws yn caniatau.”

Un o’r pethau mae e fwyaf balch ohono ers fod yn SCCH oedd cynrychioli’r heddlu ym Mhencampwriaeth Plismona Cenedlaethol Achub Bywydau fis Mehefin 2019.  

“Cafodd y sgiliau hanfodol cymorth cyntaf roeddwn wedi dysgu fel rhan o’m rȏl, eu profi i’r eithaf fel rhan o’r tȋm cymysg I Heddlu Dyfed-Powys yn y Pencampwriaeth. Roedd y safon yn uchel iawn ar draws yr holl dimoedd, felly roeddwn yn falch dros ben I adael gyda medal aur a thlws ar gyfer y tȋm cymysg, ac ennill arian yn y digwyddiadau dynion unigol.  Mae’n galonogol oherwydd nid wyf yn gwybod pryd fydd angen I fi roi ar waith y sgiliau achub bywyd hyn yn y swydd.”

 

 

Lowri Evans.JPG

Mae Lowri yn aelod o dȋm Plismona Bro Llanelli. Mae weid gweithio I Heddlu Dyfed-Powys ers pum mlynedd – fel triniwr galwadau yng  Nghanolfan Gyfathrebu yr heddlu am y ddwy flynedd gyntaf, ac yna fel SCCH yn Llanelli ers y tair mlynedd ddiwethaf.

“Rwy’n caru bod yn SCCH – ac er ei fod yn ystrydeb, mae’n rhoi cyfle I fi I wirioneddol helpu pobl yn y gymuned dwi’n gwasanaethu,” dywedodd Lowri.

“Mae bob dydd yn wahanol ac yn heriol – o dawelu meddwl y cyhoedd trwy fod allan ar batrolau gweledol, I gyfeirio aelodau o’r cyhoedd at asiantaethau eraill sydd fwyaf addas I helpu nhw. A gwneud pob peth y gallai I gefnogi pobl fregus o fewn y gymuned. Rwy’n mwynhau’r hyblygrwydd I feddwl am bethau gwahanol I ddatrys materion y rhai dan sylw.”

Yn ystod y pandemig Coronafeirws, mae wedi bod yn rhagweithil yn chwarae ei rhan I helpu amddiffyn y GIG a achub bywydau yn ei bro. Fe wnaeth wirfoddoli i wneud patrolau ychwanegol ar y cyd ȃ phartneriaid o trwyddedu a safonau masnachu. Mae’r rheolau Covid wedi bod yn ddeinamig ac weithiau wedi achosi dryswch – ond mae Lowri wedi bod yn frwdfrydig yn y dull o ymgysylltu, esbonio, ac annog I fynd i’r afael ȃ hyn.

Yn ystod y Cyfnod Atal Byr, fe wnaeth gydlynu ac arwain gweithrediad pwynt gwirio ar gerbydau yn dod I fewn I Llanelli. Cafodd mwy na 200 o bobl eu stopio, a 13 cerbyd eu troi o gwmas I fynd adref. Fe wnaeth ganfod lleoliad oedd yn dioddef o Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol rheolaidd yn y dref, a phenderfynodd rhoi’r gorsaf Heddlu Symudol yno I gynyddu gwelededd a mynd i’r afael ȃ phryderon y gymuned – o ganlyniad anfonwd chwech o bobl adref.

Ond y llwyddiant mae fwyaf balch ohono, o bell ffordd, oedd cael y gefnogaeth llawn amser oedd angen ar ddyn bregus, yn ystod y pandemig. Roedd Lowri wedi sylwi fod yna gynnydd yng ngalwadau 999 wrth y dyn bron a bod yn ddyddiol, a dros ychydig o fisoedd roedd mwy na 100 o alwadau o natur debyg wrtho.

Ychwanegodd Lowri: “Daeth y dyn yma I fy sylw ar ol I fi sylwi cynnydd mewn galwadau 999 wrtho oedd yn peri pryder tua dechrau’r pandemig. Ar ol cysylltu ȃ fe I ddechrau I ddeall yn well beth oedd yn mynd ymlaen, fe wnes i wedyn weithio gyda fe a un o fy nghyd weithwyr SCCH am bron i flwyddyn.  

“Roedd nifer o asiantaethau partneriaid yn gweithio o adref mwy oherwydd y pandemig, felly roedd yn fwy anodd I gael y gefnogaeth oedd angen arno fe. Roeddem yn gweithio gyda fe o leiaf unwaith yr wythnos, yn mynd i’w gartref yn dilyn galwadau, cyfeirio fe I’r asiantaethau mwyaf addas, cefnogi fe drwy drefnu a throsgludo parsel bwyd o’r banc bwyd, darparu pethau sylfaenol fel cyllyll a ffyrc, trefnu dillad iddo a sicrhau na fyddai’n dioddef o ‘mate crime’ oherwydd ei fregusrwydd.

“Roedd yn bwysig I ni fod yn lais iddo, a wastad yn cyfleu ein pryderon gyda phartneriaid a gwasanaethau cefnogi. Yn aml mae’n rhaid i unigolion hunan-gyfeirio a bod yn fodlon I ofyn am gefnogaeth er mwyn cael mynediad iddo, ond roedd y person yma yn ynysig ac yn methu adnabod ei fregusrwydd ei hun. Roedd y pandemig yn amlwg yn gwneud y sefyllfa’n anoddach oherwydd bod llai o ymweliadau wyneb yn wyneb. Ond yn y pendraw fe wnaeth ein hymdrechion weithio, ac fe wnaethom sicrhau y gefnogaeth llawn amser priodol oedd angen arno.”

Pan fod Lowri yn gwisgo’r wisg ar gyfer sift, mae’n falch I gerdded yn ei bro a bod yn bresenoldeb gweledol yr heddlu i dawelu meddwl y gymuned. Mae’n angerddol am feithrin perthynas a ymddiriedaeth gyda nhw, I adnabod unrhyw broblemau sy’n dod I’r amlwg a phryderon sydd angen sylw. Mae gweithio’n agos gyda phartneriaid I weithio mewn dull datrys problemau ar gyfer materion hir-dymor, cyfeirio aelodau o’r cyhoedd I’r asiantaethau mwyaf addas am gyfnogaeth, a lleihau ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol yn flaenoriaethau iddi, er mwyn gwella bywydau y rhai sydd yn ei chymuned.

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.