Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhoddodd cwnstabl heddlu a swyddog gwirfoddol eu bywydau mewn perygl er mwyn achub dynes goll a oedd wedi cael ei dal ar lan afon a oedd yn llifo’n gyflym.
Roedd y Cwnstabl Gwirfoddol Ffion Jenkins a’r Cwnstabl Heddlu Adam Newell yn rhan o dîm o swyddogion a oedd yn chwilio am y ddynes yng Nghaerfyrddin, pan welon nhw hi mewn sianel o fwd a dŵr wrth ymyl yr afon Tywi.
Ar ôl darganfod ei bod hi wedi ei dal ac yn methu â dianc, aeth y pâr ati heb oedi dim i’w chludo i ddiogelwch.
Dywedodd yr Arolygydd Kerry Scoberg: “Roedd hwn yn waith plismona anhunanol dros ben gan y Cwnstabl Gwirfoddol Ffion Jenkins a’r Cwnstabl Heddlu Adam Newell, a oedd yn benderfynol o achub y ddynes a sicrhau ei bod hi’n ddiogel ac iach.
“Rhaid canmol pob swyddog a oedd yn rhan o’r chwiliad hwn am eu gweithredoedd anhunanol, gwaith tîm, cadernid a phroffesiynoldeb, ond diolchir yn arbennig i Ffion ac Adam, a achubodd fywyd menyw mewn perygl, heb os nac oni bai.”
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad yn adrodd am bryderon am ddiogelwch dynes tua 8 o’r gloch nos Sadwrn 13 Mawrth.
Anfonwyd swyddogion yn syth i gartref y ddynes er mwyn siarad ag aelodau o’i theulu a chael unrhyw arwydd o ble y gallai fod wedi mynd. Cawsant wybod ei bod wedi gadael ei hallweddi a’i cherdyn banc ar ôl, ond ei bod wedi mynd â’i ffôn gyda hi – er nad oedd hi’n ateb unrhyw alwadau.
Chwiliodd tîm o swyddogion Caerfyrddin, gan fynd i’w llefydd gwaith, safleoedd bws, yr orsaf drên a chanol y dref. Gofynnwyd i hofrennydd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu chwilio o’r awyr hefyd.
 hithau newydd droi 9.30 o’r gloch y noson honno, galwodd y ddynes yr heddlu i ddweud ei bod wedi’i dal rhywle yn yr afon ger Caerfyrddin, ond nid oedd ei hunion leoliad yn hysbys.
Gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol yn seiliedig ar ddisgrifiad o’i lleoliad, daeth Cwnstabl Newell a Chwnstabl Gwirfoddol Jenkins – cyn gadét heddlu a ymunodd â’r heddlu gwirfoddol yn 2019 – o hyd iddi’n gyflym.
Gan weld bod y dŵr yn llifo’n gyflym ac nad oedd gan y ddynes unrhyw ffordd o ryddhau ei hun o’r mwd, ni wastraffodd y pâr unrhyw amser yn mynd ati.
“Roedd glan yr afon yn hynod o lithrig a pheryglus, ond aethant i lawr ati mor gyflym â phosibl,” meddai’r Arolygydd Scoberg.
“Er bod y ddynes mewn gwewyr, llwyddodd y swyddogion i beidio â chynhyrfu, gan sgwrsio â hi tan fod swyddogion eraill yn cyrraedd i helpu.”
Llwyddodd Cwnstabl Newell i fynd tu ôl i’r ddynes a’i thynnu allan o’r sianel ac i ffwrdd o’r dŵr â chymorth.
Aed â’r ddynes i’r ysbyty er mwyn i feddyg cael golwg arni ac er mwyn iddi gael cefnogaeth a chymorth priodol.
Dywedodd yr Arolygydd Scoberg: “Mae’r digwyddiad hwn yn dangos sut mae’n swyddogion yn cydweithio fel tîm i gyflawni’r canlyniadau gorau – ac mae’n pwysleisio cyfraniad pwysig Cwnstabliaid Gwirfoddol i’r heddlu.
“Mae Ffion, un o’n cyn gadetiaid heddlu, yn un o nifer o swyddogion gwirfoddol sy’n rhoi o’u hamser eu hunain i ymuno â’n swyddogion ar ddyletswydd ar draws yr heddlu, ac rwy’n siŵr y gwerthfawrogir ei chyfraniad yn fawr yn ystod y sifft hon a phob sifft arall.”