Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Wrth iddynt ymdrin â miloedd o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol bob blwyddyn, mae’r heddlu wedi tynnu sylw at yr amrywiol ffyrdd maen nhw’n gweithio er mwyn atal materion mân rhag dwysau.
O gam-drin geiriol ac aflonyddu, i yfed sy’n achosi niwsans a gwerthu cyffuriau, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cwmpasu amrediad eang o droseddau sy’n mynd tu hwnt i’r hyn y mae llawer o bobl yn cysylltu â’r term.
Fel rhan o ymgyrch INTACT Heddlu Dyfed-Powys, y mis hwn, mae’r heddlu’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw ymddygiad gwrthgymdeithasol, sut i adrodd amdano, a sut mae’r heddlu’n trin adroddiadau o’r fath.
Dywedodd y rhingyll Rhian Curtis: “Term ymbarél yw ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer nifer o wahanol fathau o ddigwyddiadau neu droseddau sy’n medru cael effaith negyddol iawn ar unigolion a chymunedau ehangach.
“Nid yw llawer o bobl yn deall faint o droseddau’n union sy’n cael eu cwmpasu gan y term ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’, sydd yn aml yn cael ei gysylltu â phobl ifainc yn loetran ar gorneli stryd a dim byd mwy. Mae yna nifer eang o droseddau sy’n cael eu ymdrin ȃ fel Ymddygiad gwrthgymdeithasol, fodd bynnag, os yw’n cael ei adael heb ei ddatrys, gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ddwysau’n droseddau mwy difrifol sy’n medru cael canlyniadau dinistriol.
“Drwy’r ymgyrch hon, yr ydym yn gobeithio y medrwn godi ymwybyddiaeth o ystyr ymddygiad gwrthgymdeithasol, pryd a sut y dylid adrodd amdano, a beth yr ydym yn ei wneud fel heddlu ar gyfer mynd i’r afael ag ef.”
Ers 2018, ar gyfartaledd, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn 9,500 o adroddiadau bob blwyddyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwelodd yr ystafell reoli gynnydd mawr yn nifer y galwadau yn ystod 2020, fodd bynnag, cofnodwyd achosion o dorri cyfyngiadau Covid-19 o dan y categori trosedd hwn hefyd.
Mae swyddogion a staff yn cymryd gofal i sicrhau y dilynir ymagwedd blismona sy’n canolbwyntio ar broblemau er mwyn canfod achosion craidd yr ymddygiad hwn a dod o hyd i ddatrysiadau sydd wedi’u teilwra i bob sefyllfa.
Wrth ymdrin â phobl ifainc yn eu harddegau a oedd yn achosi problemau yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, cymerwyd ymagwedd o’r gwaelod i fyny er mwyn mynd i’r afael â’r broblem a sicrhau ymyrraeth ar y cyfle cyntaf. Nododd ac ymwelodd SCHTh â phob unigolyn cysylltiedig, gan roi gwybod i’w rhieni beth oedd wedi bod yn digwydd. Ers yr ymweliadau hyn, nid oes adroddiadau pellach wedi’u gwneud.
Yn Sir Gaerfyrddin, arweiniodd ymholiadau i gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â phobl yn ymweld ag eiddo penodol i yfed alcohol a chymryd cyffuriau at swyddogion yn sylweddoli bod y preswylydd yn ddioddefydd yn hytrach na throseddwr. Mae mesurau wedi’u cymryd i ddiogelu’r ddynes, ac atal y bobl hyn rhag galw heibio i’w chartref yn y dyfodol.
Mae dioddefwyr achos diweddar o stelcio a oedd yn cynnwys ofn trais neu ofid neu fraw difrifol hefyd wedi rhannu eu profiadau o sut y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol symud o gam-drin geiriol i fygythiadau corfforol wrth i dri bom tân a gafodd eu gwneud â llaw gael eu taflu i’w heiddo. Aed â’r troseddwr i’r llys a rhoddwyd dedfryd o garchar iddo.
Dywedodd y rhingyll Curtis: “Yr ydym yn edrych ar bob achos yn unigol trwy weithio gyda asiantaethau partner, ac yn ystyried yr ymagwedd orau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem. Mewn rhai achosion, mae’r datrysiad yn gymharol syml, tra mewn eraill mae swyddogion yn ceisio amrywiol ffyrdd I ddatrys y broblem.
“Ein prif amcanion yw rhoi’r dioddefydd yn gyntaf, a sicrhau ein bod ni’n lleihau’r perygl y bydd problemau’n dwysau.”
Mae’r ymrwymiad a ddangosir tuag at roi llais i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi arwain at Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn y wobr Addewid Cymorth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – yr heddlu cyntaf yng Nghymru i’w derbyn.
Mae swyddogion sy’n ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn medru cyhoeddi llythyrau rhybudd fel rhybudd swyddogol cyntaf i droseddwyr. Cyflwynwyd 224 rhybudd cam cyntaf a 36 rhybudd ail gam i bobl ifainc rhwng Chwefror 2019 a 2021.
Mae cyhoeddi Cytundeb Ymddygiad Derbyniol yn dacteg arall a luniwyd i gael rhywun sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol i gydnabod yr effaith mae’n cael ar bobl eraill, â’r nod o atal ymddygiad o’r fath. Mae 53 cytundeb o’r fath wedi’u cyhoeddi dros y ddwy flynedd diwethaf, ac mae 16 achos o dorri’r cytundeb wedi’u cofnodi.
Mae swyddogion hefyd yn medru cyhoeddi Hysbysiadau a Rhybuddion Diogelu’r Gymuned, sy’n medru gosod nifer o ofynion ar unigolyn, gwneud cais am orchmynion cau ar gyfer eiddo sy’n achosi niwsans i’r gymuned, neu Orchmynion Ymddygiad Troseddol ar gyfer unigolion sydd wedi’u dyfarnu’n euog o gyflawni trosedd.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â pha faterion y gellir adrodd amdanynt wrth yr heddlu a pha rai sydd angen eu cyfeirio at eich awdurdod lleol, galwch heibio i https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/.
ASB covers a range of activity that can blight people's quality of life and escalate into more serious crimes.
Examples of ASB include:
Did you know it’s not just police who deal with ASB? Some behaviour needs to be reported to your local council.
If you are reporting to us, remember you can now contact us online: bit.ly/DPP101Online
If you’re unsure who to report to, visit www.askthe.police.uk
LOCAL AUTHORITY:
POLICE: