Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd yr heddlu hyd i ferch yn ei harddegau oedd ar goll bron 90 milltir o’i chartref yn dilyn ymlid drwy ganolbarth Cymru.
Arestiodd Heddlu Dyfed-Powys yrrwr ar amheuaeth o herwgipio, ac aethpwyd â’r ferch adref yn ddiogel yn dilyn y digwyddiad.
Roedd swyddogion wedi derbyn cais am gymorth gan heddlu arall yn union ar ôl canol nos ar nos Sadwrn. Cawsant wybod bod car yn teithio drwy’r ardal a oedd wedi methu â stopio pan ofynnwyd iddo wneud gan gydweithwyr yn yr heddlu.
Roedd pryderon wedi codi mai’r teithiwr yn y car oedd merch yn ei harddegau y derbyniwyd adroddiad ei bod ar goll, a blaenoriaeth swyddogion oedd sicrhau ei bod yn cael ei chanfod yn gyflym ac yn ddiogel.
Meddai’r Arolygydd Andy Williams: “Anfonwyd nifer o unedau i chwilio am y car, a welwyd ar yr A40 yn Sir Gaerfyrddin, cyn parhau ar ei ffordd i Geredigion.
“Gwnaed ymdrechion i stopio’r cerbyd, fodd bynnag gwrthododd y gyrrwr ufuddhau a pharhau i yrru. Awdurdodwyd ymlid a gosodwyd rhwystr miniog ar y ffordd i orfodi’r car i stopio a chaniatau i ni sicrhau bod y ferch oedd ar goll yn ddiogel ac yn iach.
“Gwnaed trefniadau i fynd â hi adref yn ddiogel, ac arestiwyd y gyrrwr.”
Arestiwyd y gyrrwr ar amheuaeth o herwgipio ac aethpwyd ag ef i’r ddalfa. Mae’r drosedd yn cael ei hymchwilio gan gydweithwyr mewn heddlu cyfagos.