Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd 19 unigolyn ac atafaelwyd nifer o arfau wrth i’r heddlu gymryd rhan mewn wythnos genedlaethol o weithredu yn erbyn troseddau cyllyll.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau ei ganlyniadau o Ymgyrch Sceptre, a gynhaliwyd o 26 Ebrill tan 2 Mai. Yn ystod yr wythnos hon, cymerodd swyddogion ledled yr heddlu ran mewn gweithgarwch ar gyfer mynd i’r afael â throseddau sy’n ymwneud â llafnau.
Arweiniwyd yr wythnos gan uned plismona ffyrdd yr heddlu, â ffocws ar dargedu ymgyrchoedd mewn ardaloedd allweddol drwy’r pedwar rhanbarth.
Roedd timoedd plismona bro’n allweddol o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid, creu fideos addysgol ar gyfer cymunedau ar gyfryngau cymdeithasol, a gweithio gyda’r uned plismona ffyrdd ar batrolau ar y cyd mewn mannau problemus o ran trosedd.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Williams: “Bu rhai canlyniadau ardderchog ar draws yr heddlu o Ymgyrch Sceptre eleni, ac o ganlyniad i’r rhagweithgarwch uwch mewn ardaloedd allweddol, datryswyd llawer iawn o droseddau eraill hefyd.
“Roedd hyn diolch i waith neilltuol gan ein hunedau plismona ffyrdd, timoedd plismona bro, y cyd-uned arfau saethu a swyddogion ymateb.
“Ein hymagwedd oedd addysgu ein cymunedau am y cyfreithiau sy’n ymwneud â chario a gwerthu cyllyll, a’r peryglon sy’n gysylltiedig â chael llafn yn eich meddiant, a gefnogwyd gan weithgarwch gweithredol ar draws yr heddlu, gan gynnwys gweithdrefnau stopio a chwilio, stopio a gwirio cerbydau, ac ymgysylltu â pherchnogion siop a disgyblion ysgol.
“Cafodd yr ymagwedd hon dderbyniad da, a byddwn yn parhau â hi yn ystod yr ymgyrch nesaf.”
Yn ystod yr wythnos, cafodd 20 o unigolion eu stopio a’u chwilio gan swyddogion, gan arwain at saith arést am affräe a meddu ar arfau ymosodol, a nifer o arfau’n cael eu hatafaelu.
Arestiwyd 20 unigolyn am yrru a chymryd cyffuriau yn dilyn gweithdrefnau stopio a chwilio. Arweiniodd un ohonynt at ganfod canabis yn cael ei drin yn ardal Aberteifi.
Rhoddwyd adroddiadau trosedd traffig i 41 gyrrwr. Ymdrinnir â dau unigolyn am fethu â stopio ar gyfer swyddogion ar gais.
Yn ystod gweithgarwch plismona bro, ymgysylltwyd â 95 perchennog siop. Sicrhawyd swyddogion bod y rhan fwyaf o fusnesau’n cydymffurfio â’r polisi Her 25. Bydd y rhai nad oedd yn cydymffurfio’n cael eu trin yn unol â hynny.
Dywedodd yr Arolygydd Williams: “Bydd ein gwaith ar gyfer mynd i’r afael â throseddau cyllyll yn parhau wrth inni ystyried cofnodion cudd-wybodaeth a gyflwynwyd yn ystod yr ymgyrch a datblygu cynlluniau targedig ar gyfer ymdrin â phryderon yn ein cymunedau.
“Er bod ein hamnest gyllyll yn awr wedi dod i ben, y ffordd orau o gael gwared â llafn diangen yw drwy fynd ag ef i’ch canolfan ailgylchu leol.”