Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
08:58 26/05/2021
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i fyrgleriaeth a ddigwyddodd ym Milfeddygfa Hafren, Heol Llwydlo, Trefyclo, rhywbryd rhwng 9.10 o’r gloch nos Sul 23 Mai ac 8 o’r gloch fore ddydd Llun 24 Mai 2021.
Dygwyd meddyginiaeth ar gyfer anifeiliaid, gan gynnwys tabledi gwrthfiotig a thawelyddion, a cherbyd. Disgrifir y cerbyd fel Nissan Navara brown â’r geiriau ‘Grŵp Hafren’ ar yr ochr, Rhif cofrestru’r cerbyd sydd wedi’i ddwyn yw FX66 UER.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andy Evans: “Mae’r feddyginiaeth sydd wedi’i dwyn ar gyfer anifeiliaid yn unig, ac nid yw’n addas ar gyfer pobl. Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi cael cynnig y feddyginiaeth i gysylltu â’r heddlu’n syth.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion â’u hymchwiliad i adrodd amdano wrth Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon ebost at [email protected], neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Dyfynnwch y cyfeirnod: DPP/0016/24/05/2021/01/c.