Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i nifer o adroddiadau yn ardaloedd Powys a Cheredigion am ddyn yn dynwared swyddog heddlu lleol.
Mae’r dyn hwn yn cysylltu â busnesau lleol ac yn holi cwestiynau am deledu cylch cyfyng neu’n dweud ei fod eisiau trafod digwyddiad diweddar. Weithiau, dywedodd mai Cwnstabl Jackson oedd ei enw.
Mae’r heddlu’n gofyn i’r cyhoedd fod yn wyliadwrus, riportio am unrhyw alwadau amheus, a dilyn y cyngor isod.
• Gofynnwch am fanylion y sawl sy’n galw, gan gynnwys enw, rheng, rhif coler a gorsaf.
• Gofynnwch pa heddlu y mae’n gweithio iddo.
• Nodwch unrhyw fanylion cyswllt sy’n ymddangos ynghylch y galwr neu drwy 1471 ar ôl i’r alwad ddod i ben.
• Dewch â’r alwad i ben. Dywedwch y byddwch yn cysylltu â’r heddlu’n uniongyrchol er mwyn cadarnhau pwy ydyw a chael eich trosglwyddo’n fewnol.
• Galwch aelod o’r teulu yn gyntaf er mwyn sicrhau bod y llinell wedi datgysylltu o’r galwr cychwynnol.
• Os bydd unrhyw un yn galw yn eich cyfeiriad ar ôl eich galw, galwch 999.
• Peidiwch â darparu unrhyw fanylion diogelwch dros y ffôn.
Gofynnir i unrhyw un sy’n derbyn galwad tebyg i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.
Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi dioddef twyll riportio amdano drwy alw 101, neu drwy alw Action Fraud ar 0300 123 2040.
Am ragor o gyngor a gwybodaeth ynglŷn â sut i osgoi cael eich twyllo, galwch heibio i www.actionfraud.police.uk.