Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion wedi i fenyw ddioddef ymosodiad rhywiol o gwmpas 4.30pm ddydd Sul 16 Mai 2021.
Roedd y fenyw yn cerdded ar hyd y llwybr beicio rhwng Hwlffordd a Tiers Cross pan ddaeth dyn ati gan ei bygwth ac ymosod arni, cyn cerdded i ffwrdd tuag at dref Hwlffordd.
Disgrifir yr unigolyn fel dyn gwyn, rhwng 5 troedfedd 4 modfedd a 5 troedfedd 11 modfedd o daldra, â chorffolaeth arferol gydag acen Gymreig. Mae ganddo wallt tywyll byr, barf a mwstash, llygaid brown, ac roedd yn gwisgo jîns glas golau, crys glas tywyll gyda llewys llwyd.
Gofynnir i unrhyw un a welodd ddyn yn cyfateb i'r disgrifiad hwn yn yr ardal rhwng 3.30pm a 5pm brynhawn Sul 16 Mai gysylltu â'r heddlu.
Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ac mae yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.
Mae'r llwybr beicio ar gau ar hyn o bryd tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler, sy'n arwain yr ymchwiliad,
"Mae digwyddiadau o'r math hwn yn eithriadol o brin yn ardal Dyfed-Powys.
"Efallai y bydd y cyhoedd yn gweld mwy o swyddogion yr heddlu yn y dyddiau nesaf wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.
"Gall unrhyw un sydd â phryderon neu wybodaeth a allai helpu ein hymholiadau siarad â'r swyddogion hynny neu gysylltu â'r heddlu.
"Er i ddyn gael ei arestio'n gyflym rydym yn dal i fod yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd ddyn yn cyfateb i'r disgrifiad uchod yn yr ardal brynhawn ddoe."
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad gysylltu â'r heddlu. Gellir gwneud hyn
ar-lein yn https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/,
drwy e-bostio [email protected],
neu drwy ffonio 101.
Os ydych chi'n fyddar, yn drwm eich clyw neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif nad yw ar gyfer argyfyngau, sef 07811 311 908.