Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Atafaelwyd gwerth £137,000 o gyffuriau dosbarth A yn ystod wythnos o weithredu gan yr heddlu ar gyfer mynd i’r afael â llinellau cyffuriau.
Cymerodd yr heddlu ran yn yr wythnos genedlaethol dwysâd llinellau cyffuriau rhwng dydd Llun 17 Mai a dydd Sul 23 Mai, gan gynnal gwarantau, dal cerbydau a oedd o bosibl yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau, a gweithio gyda phartneriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
Atafaelodd swyddogion gwerth tua £125,000 o heroin, gwerth tua £12,000 o gocên, 40 tabled glas, canabis, arf tanio ffug, cyllell 6 modfedd, a £7,325 mewn arian yn ystod 17 gwarant.
Arestiwyd 12 unigolyn ar amheuaeth o gyflawni troseddau cyffuriau, gan gynnwys meddu/meddu â bwriad, ac am fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau. Roedd troseddau eraill yn cynnwys gyrru yn ystod gwaharddiad a gyrru pan yn anffit.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dros Dro Andrew Cotterell: “Roedd yr wythnos ddwysâd llinellau cyffuriau’n llwyddiannus dros ben ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a chawsom nifer o ganlyniadau ardderchog diolch i waith rhagweithiol swyddogion ledled y pedwar rhanbarth.
“Arweiniodd gwaith ein timoedd at atafaelu cilogram o heroin a swm sylweddol o gocên cyn iddynt fedru cyrraedd ein strydoedd.
“Mae’n gas gennym feddwl am y dinistr y gallai cymaint â hyn o gyffuriau dosbarth A achosi yn ein cymunedau, ac mae’n dda gennym dynnu sylw at yr amhariad hwn ar ddefnyddio a chyflenwi sylweddau anghyfreithlon.”
Tra bod timoedd ymateb a phlismona rhagweithiol wedi targedu llinellau cyflenwi cyffuriau’n weithredol, cynigiodd tîm INTACT, timoedd plismona bro a’r Ganolfan Cymunedau Mwy Diogel gymorth a chyngor ynghylch diogelu, yn ogystal ag addysgu partneriaid ynghylch arwyddion a pheryglon llinellau cyffuriau.
Ymwelwyd â 38 dioddefydd cogio neu bobl a oedd mewn perygl o ddioddef cogio, diogelwyd pedwar unigolyn - un oherwydd oed, a gwnaed dau gyfeiriad ar gyfer pobl fregus o dan y mecanwaith cyfeirio cenedlaethol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Cotterell: “Ychydig iawn o bobl sy’n ymwybodol o’r holl waith sy’n digwydd tu ôl i’r llenni er mwyn cefnogi dioddefwyr, neu’r mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith er mwyn atal pobl rhag dod yn ddioddefwyr mynych troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
“Er ein bod ni’n gweithredu ar unrhyw gudd-wybodaeth newydd ar gyfer aflonyddu ar linellau cyffuriau heddlu, mae’n bwysig iawn hefyd i ni fel heddlu ein bod ni’n cymryd ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y dioddefydd tuag at weithio gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y gangiau hyn i’w gwarchod rhag dod yn ddioddefwyr mynych.”
Ymwelwyd â phum campws prifysgol a choleg yn ystod yr wythnos, ac addysgwyd dros 5000 o unigolion ifainc am linellau cyffuriau. Arweiniodd hyn at gynnal un proses stopio a chwilio, â llafnau rasel a chyllell glo’n cael eu hatafaelu.
Yn ogystal, ymwelwyd ag 85 busnes ledled yr ardal heddlu, tra bod sylw 15,000 o landlordiaid preifat ac asiantiaid gosod wedi’i dynnu at ganlyniadau anwybyddu gweithgarwch troseddol posibl yn eu heiddo.
Amcangyfrifir bod ymdrechion yr heddlu wedi arwain at addysgu dros 20,000 o bobl ifainc, gan amrywio o blant ysgol i arweinwyr cymuned.