Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:25 19/05/2021
Mae 'troseddwr peryglus a mynych' a ddychrynodd weithiwr a oedd ar ei ben ei hun gyda bygythiadau o drais yn ystod lladrad wedi'i garcharu am dros dair blynedd.
Ceisiodd Ricky Lee Rossi, o Garnswllt, ymosod ar dderbynnydd arian yng ngorsaf betrol Londis yn Rhydaman, cyn dianc â dwy botel o wisgi.
Fe arestiodd Heddlu Dyfed-Powys ddyn 26 oed dan amheuaeth yn ei gartref dim ond awr ar ôl iddynt gael eu hysbysu am y drosedd ar 11 Rhagfyr 2020.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Rebecca Thomas: "Roedd hwn yn ddigwyddiad achosodd fraw mawr i'r dioddefwr, a oedd yn cyflawni ei ddyletswydd pan wynebodd fygythiadau o drais gan rywun yr oedd yn ei herio am ddwyn o'r siop.
"Roedd Rossi wedi cael ei weld yn rhoi dwy botel o wisgi i lawr ei drowsus, ac wedi ymateb yn ffyrnig pan ddaeth y dioddefwr ato. Cipiodd y ffôn yr oedd y dioddefwr yn ceisio'i defnyddio i alw am help, a gwnaeth ymdrechion i'w daro a'i gicio.
"Yn ffodus, ni chafodd gweithiwr y siop ei anafu'n gorfforol yn ystod y digwyddiad, ond dioddefodd effeithiau parhaus yn sgil yr ofn a gafodd."
Disgrifiodd y dioddefwr deimlo'n anesmwyth ac yn bryderus yn dilyn y digwyddiad.
Mewn datganiad dywedodd: "Roeddwn i'n ysgwyd ac yn crynu am tua dau neu dri diwrnod oherwydd yr hyn ddigwyddodd. Am y ddau neu dri diwrnod hynny roedd yr hyn a ddigwyddodd yn rhedeg drwy fy meddwl.
"Ers i hyn ddigwydd os oes unrhyw un yn dod i mewn i'r siop sydd â'r un siâp corff â'r dyn a ymosododd arna i, rwy'n mynd yn nerfus yn syth. Rwy'n dechrau edrych arnyn nhw i weld ai’r un unigolyn sydd wedi dod yn ôl."
Cynhaliwyd ymholiadau teledu cylch cyfyng yn gyflym, gyda lluniau'n dangos yr un dan amheuaeth – a adnabyddwyd fel Rossi – yn gadael yr orsaf betrol mewn tacsi. Fe'i lleolwyd yn ei gartref ac fe'i harestiwyd ar amheuaeth o ladrad.
Cafodd ei gyhuddo o ddwyn o siop a lladrad – gan bledio'n euog i'r drosedd gyntaf a chael ei ganfod yn euog o'r ail yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd ei ddedfrydu i 46 mis yn y carchar a chafodd orchymyn atal pum mlynedd.