Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:58 14/05/2021
Heddiw, yr ydym yn edrych nôl ar enillwyr Tîm y Flwyddyn 2020 Heddlu Dyfed-Powys, sef Tîm Dalfa Ceredigion.
Er bod gwaith y tîm yn digwydd tu ôl i ddrysau clo a ffenestri â barrau arnynt, sylwir ar waith rhingylliaid, cwnstabliaid dalfa a swyddogion cymorth y ddalfa a thywys Ceredigion.
Yng Ngwobrau Blynyddol 2020 Heddlu Dyfed-Powys, cydnabu’r tîm am ei ymrwymiad parhaus tuag at un o amgylcheddau mwyaf heriol yr heddlu.
Mae dalfa Heddlu Dyfed-Powys yn weithredol 24 awr y dydd, 365 diwrnod yr wythnos, ac mae gan yr aelodau staff sy’n eu rhedeg y cyfrifoldeb eithaf o sicrhau diogelwch pawb sy’n dod i’r ddalfa.
Gall carcharorion brofi’n heriol weithiau, ond mae’r tîm calonnog yn Aberystwyth yn aros yn broffesiynol ac yn creu’r amgylchedd gorau posibl – rhywbeth sydd wedi’i gydnabod gan weithwyr meddygol proffesiynol Gwasanaeth Gofal Iechyd CRG, sy’n darparu gofal iechyd sylfaenol yn y ddalfa.
Nid yw’r tîm byth yn gwybod pwy fydd yn dod trwy’r drws nesaf, ond maen nhw bob amser yn barod i wynebu heriau unigryw a goresgyn rhwystrau i helpu a pharchu pobl o bob cefndir.
Mae’r tîm hefyd wedi’u canmol am eu cyfraniad i achosion cymhleth, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â throseddau llinellau cyffuriau, yn ogystal â throseddau difrifol a throseddu trefnedig.
Llongyfarchodd Emma Ackland, Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, Dîm Dalfa Ceredigion, a diolchodd iddynt am eu “cadernid a’u dyfalbarhad, a’r balchder maen nhw’n arddangos yn yr hyn maen nhw’n ei wneud.”
NODDWYD TÎM Y FLWYDDYN GAN | Niche – wedi ymrwymo i ddatblygu, gweithredu, cefnogi a gwella pensaernïaeth system sy’n cefnogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith i wasanaethu eu cymunedau.