Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ail ddiwrnod ein crynodeb o Wobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys, yr ydym yn cydnabod dau swyddog diogelwch a dderbyniodd Wobr Cymeradwyaeth Arbennig yr Heddlu am eu gweithredoedd dewr yn Sioe Frenhinol Cymru.
Cyflwynodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter y wobr yn rhithwir i Gary Jones a Gareth Cummins, o gwmni Diogel Events i gydnabod eu cymorth o ran dwyn troseddwr peryglus i gyfiawnder.
Roedd Gwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys i fod i ddigwydd yng ngwanwyn 2020, ond fe’u gohiriwyd oherwydd y Coronafeirws.
Roedd y tîm Diogel, a oedd yn gweithio ar ran y Clwb Ffermwyr Ifanc, yn darparu diogelwch yn y Pentref Ieuenctid, sef maes wersyllfa yn Sioe Frenhinol Cymru 2019.
Ar ddydd Mercher, 24 Gorffennaf 2019, ychydig ar ôl 5 y bore, cododd y gweithredwr teledu cylch cyfyng pan welwyd Volkswagen Golf lliw arian yn gyrru’n beryglus ac yn dod i mewn drwy brif giat y maes wersylla.
Ymgeisiodd y tîm i drafod gyda’r troseddwr ond mewn ymgais i ddianc, cyflymodd y gyrwr yn ei flaen, gan orfodi Mr Jones i neidio ar foned y car er mwyn osgoi anaf difrifol. Yna pwniodd y sgrin wynt gyda’i ddwrn, gan achosi iddo falu a rhwystro’r gyrrwr rhag gweld allan.
Neidiodd Mr Cummins dros iet metel i gynorthwyo ei gydweithiwr eiliadau cyn i’r gyrrwr yrru drwy’r gât a tharo tŵr golau.
Er gwaethaf hyn, tynnodd y swyddogion diogelwch dewr y pâr o’r car a’i cadw tan i swyddogion gyrraedd y safle.
Roedd Emlyn Jones, perchennog y cwmni rheoli digwyddiadau, wrth ei fodd i glywed am y wobr: “Mae pob un ohonom ni yma yn Diogel Events yn falch iawn o Gary a Gareth.
“Roedd beth wnaethon nhw y tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan ei personel diogelwch. Fe wnaethon nhw roi eu hunain mewn perygl er mwyn diogelu eraill. Fe wnaethon nhw jobyn gwych ac roedd yn dda iawn gweld y staff diogelwch a’r heddlu’n cydweithio.”
Yn y llys cafwyd y troseddwr yn euog o yrru pan oedd wedi ei ddiarddel, defnyddio cefbyd pan nad oedd wedi ei yswirio a gyrru peryglus. Diarddelwyd ef rhag gyrru a derbyniodd ddedfryd o garchar.
Meddai’r Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter: “Gyda diolch i weithredoedd di-ofn a phenderfynnu cyflym Gary a Gareth, cafodd gyrwr peryglus ei erlyn a’i dynnu oddi ar ein ffyrdd.
“Ni wyddwn beth fyddai canlyniad y noson honno pe na bai tîm diogelwch Diogel Events wedi ymyrryd, ond rydym yn ddiolchgar iddynt am gadw’r cyhoedd yn ddiogel rhag unrhyw niwed posibl.”
Yfory, byddwn yn dathlu aelod staff heddlu o Adran Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu’r Heddlu.