Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo o droseddau cyflenwi cyffuriau dosbarth A yn dilyn atafaeliad heroin mwyaf erioed Heddlu Dyfed-Powys.
Ar ôl i swyddogion yn Aberystwyth stopio a chwilio unigolion, darganfuwyd tua 1kg o heroin, gwerth tua £125,000, ddydd Gwener, 14 Mai.
Cynhaliwyd y chwiliad ger y castell, ac roedd gan y cyffuriau a atafaelwyd y potensial i gynhyrchu 12,500 o drafodiadau unigol ar y stryd.
Cafodd dau ddyn eu harestio ar unwaith ar amheuaeth o gyflenwi’r cyffuriau.
Dywedodd swyddog yr achos, y Ditectif Ringyll Steve Jones: "Roedd hyn yn atafaeliad sylweddol o gyffuriau dosbarth A a oedd yn mynd i gael eu gwerthu ar strydoedd Aberystwyth a Cheredigion yn ehangach.
"Ar hyn o bryd, credwn mai dyma'r atafaeliad heroin mwyaf erioed yr heddlu.
"Cyflymwyd camau’r ymholiadau’n gyflym iawn i brofi'r sylwedd yn fforensig a chynnal ymchwiliadau digidol, gyda nifer o swyddogion o wahanol dimau yn cydweithio i sicrhau cyhuddiadau yn erbyn dau ddyn."
Cafodd Michael James Price, 48 oed, o Heol y De yn Aberystwyth, ei gyhuddo o feddu ar heroin gyda'r bwriad o gyflenwi.
Cafodd John James Rooney, 44 oed, ei gyhuddo o gyflenwi heroin, caffael, defnyddio neu feddiannu eiddo troseddol – sef £2,325 mewn arian parod, gyrru tra roedd wedi’i anghymhwyso a gyrru heb yswiriant.
Bydd y ddau yn aros yn nalfa'r heddlu hyd nes y gallant ymddangos yn llys yr ynadon.