Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae trysorydd elusen wedi derbyn dedfryd o garchar gohiriedig am ddwyn miloedd o bunnoedd a fwriadwyd ar gyfer achosion da.
Yn dilyn ymchwiliad hir gan Heddlu Dyfed-Powys, cyfaddefodd Lee Squelch, o Landdewi Felffre bedair achos o dwyll yn dilyn twyllo Cymdeithas Llwybrau Ceffyl a Chilffyrdd Sir Benfro o fwy na £6,300.
Daeth y troseddau i’r golwg yn Rhagfyr 2018 pan wnaethpwyd adroddiad o ddwyn gan y gymdeithas, sy’n gweithio i wella mynediad i lwybrau ceffyl tra hefyd yn codi arian i amrywiaeth o elusennau.
Fe wnaethant adrodd am broblemau gyda’u trysorydd – Squelch, 37 oed – a oedd wedi methu â chynhyrchu cyfrifon am bedair blynedd, ac roeddent yn amau iddo fod yn dwyn arian.
Meddai’r swyddog ymchwilio, y Rhingyll Gerwyn Davies: “Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y Gymdeithas Llwybrau Ceffyl wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau gan gredu bod y cyllid a godwyd yn cael ei roi i nifer o elusennau gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Greenacres Animal Rescue, Healing the Wounds, a Chlwb Ieuenctid Hive yn Hwlffordd.
“Fodd bynnag, tra’i fod yn honni ei fod wedi gwneud y rhoddion perthnasol i’r elusennau hyn, daeth i’r amlwg fod Squelch wedi ffugio anfonebau a thalu’r sieciau i’w hun. Ceisiodd guddio hyn drwy ysgrifennu enwau’r elusennau ar fonion y sieciau.
“Roedd wedi cymryd cyfanswm o £6,300 oddi ar y sefydliadau haeddiannol hyn.”
Er iddo wadu’r cyhuddiadau drwy gydol yr ymchwiliad, plediodd Squelch yn euog yn y llys ar y 5ed o Fawrth - cymaint oedd y dystiolaeth a gasglwyd yn ei erbyn. Ymddangosodd yn Llys y Goron, Abertawe ar ddydd Gwener, Ebrill 30 lle dedfrydwyd ef i 12 mis o garchar wedi eu gohirio am 18 mis. Rhaid iddo gyflawni 150 awr o waith di-dâl a chwblhau cwrs adsefydlu.
Ychwanegodd y Rhingyll Davies: “Roedd hwn yn ymchwiliad hir a oedd yn cynnwys nifer o ddatganiadau tystion, ymchwiliadau ariannol a gorchmynion llys, a gwnaethwyd y cyfan yn anoddach gan fod Squelch yn parhau i wadu’r troseddau.
“Gyda nifer o elusennau’n ei chael hi’n anodd iawn drwy gydol y pandemig Covid-19, gallai – a dylai’r - arian hwn fod wedi ei ddefnyddio ar gyfer nifer o bethau buddiol gan gynnwys dyfeisiau achub bywyd, offer i blant eu mwynhau yn y clwb ieuenctid, neu i helpu gofalu am anifeiliaid a achubwyd.”