Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ddiwrnod olaf y crynodeb o Wobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys, rydym yn dathlu PC Neil Lees, enillydd gwobr Swyddog Heddlu'r Flwyddyn 2020.
Enwebwyd PC Neil Lees, aelod o dîm plismona bro Aberdaugleddau gan ei gydweithwyr am ei ymrwymiad i blismona lleol ac am ei atebion craff, cynaliadwy i faterion cymunedol.
Disgrifir PC Lees gan ei dîm fel cydweithiwr ‘anogol’ ac ‘ysbrydoledig’ sy’n ‘swyddog uchel ei barch yn Sir Benfro ac sy’n cael ei ystyried yn fodel rôl i lawer.’
Canmolodd rhingyll plismona bro Aberdaugleddau, Terri Harrison ymroddiad PC Lees: “Pan roddir tasg i Neil mae bob amser yn mynd y tu hwnt i’r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl”.
Rhan o lwyddiant PC Lees yw ei allu i gyfathrebu a chefnogi’r cyhoedd, ei gydweithwyr a phartneriaid Heddlu Dyfed-Powys.
Enghraifft o ymdrechion rhagorol PC Lees yw ei waith yn ymwneud â Pharc Siopa Haven’s Head, Aberdaugleddau.
Roedd y lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynyddu yn yr ardal, ac felly aeth PC Lees ati i mewn modd datrys problemau, gan greu newid ac annog asiantaethau eraill i berchnogi’r problemau.
Dywedodd y Rhingyll Terri Harrison: “Fel swyddog plismona bro newydd Aberdaugleddau, gweithiodd Neil yn ddiflino i wneud gwahaniaeth, gydag oriau di-ben-draw o batrolio, cyfarfodydd rheolaidd â phartneriaid allweddol a gweithredu nifer dirifedi o gamau cadarnhaol.”
Talodd ei ymdrechion ar ei ganfed ac arweiniodd y cydweithrediadau at ostyngiad yn y galw ar yr heddlu, mwy o hyder yn Heddlu Dyfed-Powys ymhlith busnesau lleol, a datrys y mater yn y tymor hir.
Mae enghraifft arall o waith PC Lees yn cynnwys ei waith yn ymwneud ag ymgyrch Fearless lle bu’n addysgu ac yn cefnogi partneriaid ac asiantaethau’r trydydd sector ledled Sir Benfro ym maes atal troseddu.
Dywedodd y Rhingyll Terri Harrison fod gwaith ymgyrchu PC Lees: “wedi creu llawer o ddiddordeb, brwdfrydedd a diolchgarwch am y wybodaeth a’r amser y mae wedi’i roi i gartrefi gofal, ysgolion uwchradd, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, a grwpiau bregus yn y gymuned.”
Da iawn a diolch PC Neil Lees
Wel dyna ddiwedd ar ein crynodeb o Wobrau Blynyddol Heddlu Dyfed Powys, ond os ydych chi'n adnabod SCCH, gwirfoddolwr, heddwas neu aelod o staff Heddlu Dyfed Powys yr ydych chi'n credu sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswydd er mwyn gwneud gwahaniaeth, yna beth am rannu eich barn ar y we dudalen Diolchiadau a Chwynion?