Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ein pumed diwrnod o uchafbwyntiau Gwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys 2020, rydym yn cydnabod rhingyll ymateb o Lanbedr Pont Steffan a ymunodd â’r heddlu’n ddeunaw oed ac ac mae wedi datblygu i fod yn un o arweinwyr mwyaf canmoladwy’r sefydliad.
Mae’r Rhingyll Leyton Phillips wedi’i ddisgrifio gan ei gydweithwyr fel ‘un o’r rhingylliaid rheng flaen gorau yn Heddlu Dyfed-Powys’. Fe oedd enillydd Gwobr Arweinyddiaeth Heddlu Dyfed-Powys yn 2020 am ei allu i arwain ei dîm yn bwyllog mewn sefyllfaoedd heriol.
Yn 2019, roedd menyw fregus wedi geni babi heb unrhyw gymorth meddygol tra roedd hi’n cuddio. Roedd hi yng nghwmni ei phartner camdriniol ac roedd y gwasanaethau cymdeithasol am ddod o hyd iddi. Bu’r teulu ar goll am sawl diwrnod ac roedd llinellau ymholi’n prinhau.
Dechreuodd y Rhingyll Phillips ei ddyletswydd a chafodd ei dîm ymateb a’i swyddogion CID ar yr achos ar unwaith, gan fynd i chwilio am y fam a’r baban ar y strydoedd ei hun hefyd.
Bu ei benderfyniadau strategol a’i ragweithioldeb yn llwyddiant gan i’r teulu gael eu darganfod yn y pen draw, a bu’n rhaid i’r Rhingyll Phillips ymlid ar droed am gryn bellter, cyn arestio partner y fenyw yn y fan a’r lle.
Aethpwyd â’r baban i fan diogel i’w archwilio gan weithwyr meddygol proffesiynol.
Gwnaed llawer o waith tîm i ddatrys y digwyddiad, ond arweinyddiaeth ac ymdrech olaf y Rhingyll Phillips a dynnodd bopeth at ei gilydd gan sicrhau canlyniad cadarnhaol i bawb.
Dywedodd y Prif Arolygydd Thomas Sharville: “Mae’r Rhingyll Phillips yn sefyll allan am ei frwdfrydedd yn ei rôl a sut mae’n ysbrydoli ei dîm.
“Mae’n arweinydd sy’n cyflawni’n gyson, ac yn sbarduno eraill i fynd y filltir ychwanegol honno hefyd.”
Wrth siarad ar ôl derbyn ei wobr Arweinyddiaeth, dywedodd y Rhingyll Phillips: “Ymunais â’r heddlu fel cwnstabl pan oeddwn i’n ddeunaw oed a nawr, 16 mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n dal i ddeffro’n teimlo yr un mor gyffrous am ddod i’r gwaith ag yr oeddwn i bryd hynny.
“Does dim swydd arall debyg i’r swydd hon, ac rwy’n teimlo’n lwcus iawn i allu plismona mewn rhan mor hyfryd o’r wlad.”
Mae Gwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod y cyfraniadau rhagorol a wneir gan weithwyr yr heddlu, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r cyhoedd ym mhob maes plismona.
Er y bu’n rhaid canslo seremoni Gwobrau Blynyddol 2020 oherwydd y coronafeirws, rydym bellach yn gweld diwydiant digwyddiadau’r DU yn cymryd y camau cyntaf i ailagor, ac felly rydym yn dal i fod yn obeithiol ar gyfer Gwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys 2021!
NODDIR GAN | CBRE - cwmni eiddo tirol masnachol a gwasanaethau buddsoddi sydd wedi'i integreiddio'n fyd-eang, sy'n trawsnewid eiddo tirol yn fantais wirioneddol.