Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw rydym yn dathlu'r arbenigwr meddalwedd, Shaun Coles, enillydd Gwobr Arloesedd a Gwelliant Parhaus Heddlu Dyfed-Powys 2020, a lluniwr y system feddalwedd newydd, Ardal - rhaglen TGCh sydd wedi adfywio plismona bro.
Mae system amlswyddogaethol newydd Shaun, Ardal, wedi galluogi swyddogion rheng flaen Heddlu Dyfed-Powys i ddogfennu gwybodaeth leol yn rhwydd ar eu terfynellau data symudol tra maent allan yn y maes.
Mae Ardal wedi galluogi Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu a Swyddogion yr Heddlu i fod yn fwy gweladwy a hygyrch yn eu cymunedau, gan eu bod bellach yn gallu cael gafael ar nifer o systemau TGCh yr heddlu, eu diweddaru a chysylltu â nhw’n gyflym ac yn effeithlon o'u lleoliad.
Mae system Shaun wedi bod yn hynod werthfawr yn 'awr aur' gychwynnol digwyddiadau mawr a thyngedfennol, fel personau coll risg uchel, gan ddarparu gwybodaeth am y systemau teledu cylch cyfyng sydd ar gael yn ogystal â ffrwd 'amser byw' o gronfeydd data allanol, megis amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae gan y system arloesol swyddogaeth archwilio hefyd, sy'n caniatáu i ddadansoddwyr a rheolwyr Heddlu Dyfed-Powys adolygu a mesur y gwaith a wneir gan y timau plismona bro - rhywbeth sydd wedi bod yn anodd iawn ei werthuso yn hanesyddol.
Ers mis Medi 2019, mae Ardal wedi cofnodi:
Gofynnodd y Prif Arolygydd Mark McSweeney, o Ganolfan Cymunedau Diogelach yr heddlu, am y system newydd a chafodd ei syfrdanu gan gyfleoedd datblygu diddiwedd Ardal: "Yn fy ugain mlynedd o brofiad o blismona bro, dydw i erioed wedi gweld system sydd mor hawdd i'w defnyddio gyda chymaint o swyddogaethau."
Mae Shaun yn parhau i arloesi a gwella rhaglenni TGCh yr heddlu. Wrth gael gair â Shaun, rhoddodd gipolwg i ni o’r hyn sydd ar y gweill: "Ym mis Mehefin eleni, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn lansio Llais, system negeseua cymunedol a fydd yn rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd am ymgyrchoedd yr heddlu, apeliadau lleol a newyddion yn eu hardaloedd lleol drwy e-bost.
"Bydd system Llais yn cael ei hintegreiddio'n llawn i Ardal, ac felly bydd swyddogion lleol yn gallu anfon gwybodaeth at bobl sy'n tanysgrifio i'r gwasanaeth."
Da iawn Shaun a gyda lansiad Llais, pwy a ŵyr, efallai y byddwn yn gweld mwy ohono yng Ngwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys 2021.
GWOBR ARLOESEDD A GWELLIANT PARHAUS, WEDI’I NODDI GAN | Baydale Control Systems - arbenigwyr ar ddylunio, gosod, gwasanaethu a chynnal a chadw systemau teledu cylch cyfyng, Rheoli Mynediad, Larwm Tân a Gofalu, yn ogystal ag Atebion Integredig wedi'u cynllunio'n greadigol, ar gyfer cleientiaid sector cyhoeddus a chorfforaethol.