Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiodd yr heddlu ddyn â nifer o ffonau symudol ffug tybiedig yn ystod diwrnod o weithredu yn Llanelli.
Cymerodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ran mewn patrolau cydlynol ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy’n gysylltiedig â sylweddau ddydd Iau 20 Mai, yn ogystal â chynnal tair gwarant yn y dref.
Dywedodd y Rhingyll Scott Morris: “Hwn oedd y diweddaraf mewn cyfres o ddiwrnodau gweithredu sydd wedi’u cynnal yn Llanelli a gweddill Sir Gaerfyrddin yn ystod y misoedd diwethaf.
“Ein nod oedd cydweithio er mwyn mynd i’r afael â throseddolrwydd sy’n gysylltiedig â chyffuriau, gan gynnwys llinellau cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, drwy gamau gweithredu rhagweithiol gan yr heddlu.
“Cynhaliom y diwrnodau gweithredu hyn oherwydd ein bod ni’n deall y trallod y gall troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau achosi yn ein cymunedau, a chredwn mai camau gweithredu cydlynol yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’i atal.”
Gweithredwyd tair gwarant gyffuriau yn ystod y dydd. Cafwyd dau ganlyniad cadarnhaol ar gyfer sylweddau dosbarth A a chanabis. Yn ogystal, daethpwyd o hyd i arf tanio ffug. Cafodd ei ildio’n wirfoddol gan y perchennog.
Cynhaliwyd pedair proses stopio a chwilio. Cofnodwyd chwe trosedd ar gyfer twyll a meddu ar sylweddau a reolir.
Dywedodd y Rhingyll Morris: “Mae un o’r chwiliadau’n ymwneud â dyn a ddaliodd sylw swyddogion ar batrôl yng nghanol y dref.
“Daethpwyd o hyd i nifer o ffonau symudol Samsung Galaxy ac iPhone, a chlustffonau Airpod gan gwmni Apple, wedi’u selio yn ei gar. Roedd gan nifer ohonynt yr un rhif cyfres, a fyddai’n awgrymu eu bod yn rhai ffug.
“Atafaelwyd yr eitemau hyn, a fyddai werth dros £5000 pe baen nhw’n ddilys, ac arestiwyd y dyn ar amheuaeth o dwyll.”
Mae’r dyn 25 oed o ardal Wolverhampton wedi’i ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal, a bydd gwaith yn cael ei gynnal gyda Safonau Masnach er mwyn pennu pa un ai a oedd yr eitemau’n ddilys.
Dywedodd y Rhingyll Morris: “Roedd y diwrnod o weithredu’n llwyddiannus o ran canlyniadau ac o ran rhoi blas i’n swyddogion mwyaf newydd o’r math o waith na fyddant o bosibl fer arfer yn profi yn ystod y cam hwn o’u gyrfa.
“Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r ymgyrch am eu brwdfrydedd, a oedd heb ei leihau gan yr amodau tywydd gwael.”