Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi’i gyhuddo o feddu ar gyffuriau dosbarth A a dosbarth B â gwerth posibl o hyd at £10,000 ar y stryd yn dilyn gwarant yn Llanelli.
Aeth Heddlu Dyfed-Powys i gartref Sanjit Sanghera ddydd Mercher 19 Mai fel rhan o ymchwiliad i gyflenwad cyffuriau ehangach yn yr ardal.
Yn fuan iawn, darganfuwyd ei fod wedi bod yn cyflenwi sylweddau anghyfreithlon ers 2018.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Andrew Clatworthy: “Sylwodd swyddogion a aeth i’r eiddo ar arogl canabis cryf yn dod o sied yn yr ardd, lle y darganfu bagiau a oedd yn cynnwys canabis a phowdwr y credid mai canabis ydoedd.
“Arweiniodd chwiliad llawn o’r tŷ at atafaelu £4000 mewn arian parod, ynghyd â dros hanner cilogram o ganabis a thua 41 gram o gocên.
“Mae hyn yn fwy o lawer na’r hyn y byddem yn disgwyl dod o hyd iddo ar gyfer defnydd personol rhywun.”
Daethpwyd o hyd i lawer o’r sylweddau anghyfreithlon mewn jariau gwydr â labeli bisgedi arnynt.
Amcangyfrifodd dadansoddydd cyffuriau arbenigol mai rhwng £7800 a £10,000 oedd gwerth y cyffuriau a atafaelwyd ar y stryd, gan ddibynnu ar burdeb y cocên.
Arestiwyd Sanghera, 21 oed, o Heol yr Ysgol, Morfa, ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau â’r bwriad o werthu.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Andrew Clatworthy: “Er ei fod wedi rhoi atebion “dim sylw” yn ystod cyfweliadau’r heddlu, yr oeddem yn medru cyflymu ein hymholiadau digidol, ac adferom dystiolaeth ardderchog i brofi ei fod wedi bod yn gysylltiedig â chyflenwi sawl cilogram o gyffuriau.
“Daethpwyd o hyd i negeseuon ar ei ffôn symudol sy’n dangos tystiolaeth o werthu cyffuriau mor bell yn ôl â 2018, sy’n dangos ei fod wedi bod yn werthwr mynych yn yr ardal.”
Cyhuddwyd Sanghera o feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad o werthu, meddu ar gyffuriau dosbarth B â’r bwriad o werthu, a chael, defnyddio neu feddu ar eiddo troseddol - sef £4,227.
Cyfaddefodd i’r holl droseddau pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau 20 Mai, a chafodd ei gadw yn y ddalfa hyd nes bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 21 Mehefin.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Clatworthy: “Roedd hwn yn ganlyniad ardderchog i warant, ac un yr ydym yn credu y bydd wedi aflonyddu ar giang troseddu trefnedig sy’n gweithredu yn ardal Sir Gaerfyrddin.
“Diolch i gefnogaeth gan nifer o adrannau o ran sicrhau tystiolaeth gref yn gyflym, cyfaddefodd y diffynnydd yn llawn i’r cyhuddiadau yn ei erbyn heb fod angen cynnal treial.”