Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae mam-gu o Sir Benfro wedi’i chydnabod am ei chyfraniad pwysig tuag at blismona lleol.
Cyhoeddwyd mai Anita Wheeler yw Gwirfoddolwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys.
Dechreuodd Anita wirfoddoli i Heddlu Dyfed-Powys 18 mlynedd yn ôl, gan weithio ar ddesg flaen Gorsaf Heddlu Neyland, cyn symud i Orsaf Heddlu Aberdaugleddau yn 2012.
Mae Anita’n gwirfoddoli deirgwaith yr wythnos, gan gofnodi eiddo coll, derbyn adroddiadau gan y cyhoedd, rhoi pecynnau gwybodaeth at ei gilydd a chefnogi gweithgareddau ymgysylltu.
Mae hi hefyd yn cadw mewn cysylltiad â chydlynwyr Gwarchod Cymdogaeth y dref ac yn rhoi gwybod i’r Tîm Plismona Bro am unrhyw faterion iddynt eu hymchwilio. Mae hyn oll yn helpu i ryddhau swyddogion fel eu bod nhw’n medru treulio mwy o amser ar y bît. Mae ei theisen diferion lemwn enwog hefyd yn codi calon. Mae’n ei choginio er mwyn croesawu swyddogion newydd i’r orsaf.
Ers y pandemig, mae Anita wedi rhoi’r gorau i’w dyletswyddau fel gwirfoddolwr cownter blaen dros dro er mwyn dilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol. Serch hynny, mae hi wedi cadw mewn cysylltiad â’i theulu heddlu, sy’n falch iawn ei bod hi wedi derbyn y wobr.
Dywedodd Rhingyll y Tîm Plismona Bro, Terri Harrison, “Mae Anita’n llwyr ymroddedig ac yn ased gwirioneddol i’r teulu heddlu yn Aberdaugleddau.
“Ar ôl byw yma drwy gydol ei hoes, mae llawer iawn o bobl y dref yn ei hadnabod. Mae’n darparu cyfoeth o wybodaeth leol ac yn gweithredu fel dolen bwysig rhwng y Tîm Plismona Bro a’r gymuned.”
Ychwanegodd yr Arolygydd Jonny Griffiths, “Mae Anita’n aelod gwerthfawr o’n tîm sy’n rhoi ei hamser ei hun yn gyson i’n cefnogi fan hyn. Mae hi’n llawn haeddu’r wobr hon.
Mae Anita’n un o 125 o wirfoddolwyr yr heddlu, sy’n amrywio o Gwnstabliaid Gwirfoddol a Chaplaniaid Heddlu i arweinwyr Cadetiaid Heddlu i staff cymorth cownter blaen.
Cafodd Dewi Smith, sy’n gwirfoddoli yng Ngorsaf Heddlu Aberteifi, ei enwebu ar gyfer y wobr hefyd. Fe’i henwebwyd am ei gyfraniad tuag at gefnogi staff, swyddogion a chymunedau de Ceredigion, a’r grŵp Cynllun Peilot Arsylwyr Annibynnol â Dalfeydd.
Mae’r grŵp Cynllun Peilot Arsylwyr Annibynnol â Dalfeydd yn cynnwys 12 gwirfoddolwr: Glynis Lazenby, Daniel Knudson, Mandy Davies, John Jones, Stephen Wood, Debra Cofft, Hugh Patrick, Robert Cosic, Carl Shutt, Patricia Crozier, Gwyneth Evans ac Alar Laius. Maen nhw’n rhoi o’u hamser i wella safonau plismona, gan weithio’n agos â Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh), ac yn sicrhau bod carcharorion Dyfed-Powys yn cael eu trin yn gyfartal a gyda pharch.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro, Clare Parmenter, “Mae Anita wedi bod yn rhan o deulu estynedig Heddlu Dyfed-Powys ers deunaw mlynedd, ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn am ei gwasanaeth.
“Heddlu lleol yw Heddlu Dyfed-Powys, felly mae gwybodaeth leol Anita a’n gwirfoddolwyr cownter blaen eraill, a’u dealltwriaeth o gymunedau lleol, yn werthfawr dros ben.
“Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig iawn mewn sicrhau ein bod ni’n darparu’r gwasanaeth gorau i’n cymunedau.”
Galwch heibio i https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-dyfed-powys/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/cwnstabliaid-gwirfoddol-a-gwirfoddolwyr/gwirfoddolwr-cefnogir-heddlu/ am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch chi gefnogi’ch cymuned a dysgu sgiliau newydd drwy wirfoddoli.