Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth swyddogion heddlu Porth Tywyn a Chydweli o hyd i osodiad cynhyrchu canabis soffistigedig diolch i gudd-wybodaeth a gafwyd yn ystod digwyddiadau ymgysylltu cymunedol.
Cynhaliwyd gwarant yn ardal Mynyddygarreg ar ôl derbyn gwybodaeth bod y cyffur dosbarth B yn cael ei gynhyrchu yn y cyfeiriad.
 chymorth Tîm Plismona Bro Llwynhendy ac Uned Gŵn Heddlu Dyfed-Powys, chwiliodd Tîm Plismona Bro Porth Tywyn a Chydweli’r eiddo ar 29 Ebrill.
Daethpwyd o hyd i sawl planhigyn canabis mawr yn tyfu mewn ystafell sbâr, yn ogystal â nifer o fagiau bach o ganabis llysieuol.
Amcangyfrifwyd bod gwerth y cyffuriau a atafaelwyd oddeutu £1,200 i £1,500 ar y stryd.
Dywedodd y Rhingyll Gemma Davies: “Cafodd SCCH Tîm Plismona Bro Porth Tywyn a Chydweli gudd-wybodaeth yn ystod eu gwaith Cwrdd â’r Stryd arferol, gan arwain at y warant.
“Mae SCCH yn targedu stryd wahanol yn eu hardal bob wythnos, gan siarad â phreswylwyr er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon, sydd yna’n cael eu bwydo i mewn i gynlluniau eu tîm ac yn helpu i ffurfio blaenoriaethau.
“Datblygwyd gwybodaeth am weithgarwch anghyfreithlon posibl yn yr eiddo penodol hwn yn gyflym gan y swyddogion er mwyn galluogi camau gweithredu cyflym a phendant.
“Diolch i’w gwaith, roeddent yn medru sicrhau’r gymuned bod eu pryderon yn cael sylw – a byddant yn parhau i gael sylw.”
Cyfwelwyd â’r deiliad y diwrnod hwnnw a chafodd ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.