Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:49 07/05/2021
Dywedodd Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys: “Yr ydym yn derbyn y pryderon a’r argymhellion a gyhoeddwyd gan AHGTAEM mewn perthynas ag unplygrwydd data trosedd. Fel sefydliad, yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi dioddefwyr a’u rhoi nhw wrth wraidd popeth a wnawn. Mae gan yr heddlu gynlluniau ar waith i wella’r ffordd y mae’n cofnodi troseddau, ac rwy’n benderfynol y byddwn yn cael hyn yn iawn.
“Ers yr archwiliad AHGTAEM diwethaf yn 2018, yr ydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’n hymateb i ddioddefwyr Cam-drin Domestig, gan greu’r ddesg fregusrwydd, sy’n darparu cudd-wybodaeth amser real i swyddogion sy’n mynd i leoliadau digwyddiadau Cam-drin Domestig a sicrhau bod trefniadau diogelu mewn grym drwy ganolfan bartneriaeth newydd. Dangosodd archwiliadau diweddar ym mis Ebrill ein bod ni’n cyflawni cydymffurfiaeth o 98% ar gyfer cwblhau asesiadau risg. Mae hyn yn sicrhau bod pob dioddefydd Cam-drin Domestig yn derbyn gofal ac yn cael ei ddiogelu.
“Mae gennym raglen o newid eisoes mewn grym a fydd yn cyflenwi newidiadau sylweddol i brosesau a diwylliant. Bydd elfennau’r rhaglen hon yn gwella gallu’r heddlu i reoli galw, cefnogi dioddefwyr, gwella amseroldeb ac ansawdd ymchwiliadau a goruchwyliaeth troseddau. Nid oedd modd i AHGTAEM ystyried y prosiect hwn fel rhan o’r ymchwiliad hwn. Mae cynlluniau cyflenwi’n cychwyn mis nesaf (Mehefin 2021).
"Ers dyddiad yr archwiliad hwn, yr ydym eisoes yn gweld gwelliannau o ganlyniad i’r camau ychwanegol cyflym yr ydym wedi’u cymryd, gan sicrhau cydymffurfiaeth o 100% o ran cofnodi troseddau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer mis Chwefror a mis Mawrth 2021, sydd yn gadarnhaol.”