Stamp amser presennol: 22/06/25 18:48:58
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Yr heddlu’n aflonyddu ar linell gyffuriau newydd i mewn i dde orllewin Cymru

Cynnwys y prif erthygl

Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 15:43 19/05/21

Fe wnaeth yr heddlu darfu ar droseddwr treisgar y credir ei fod yn sefydlu llinell gyffuriau newydd i mewn i dde orllewin Cymru wrth iddo deithio drwy Sir Gaerfyrddin.

Mae gan Muhajid Edwards euogfarnau blaenorol am droseddau treisgar a defnyddio arfau mewn ardaloedd eraill, ac roedd yn gwisgo fest trywanu pan gafodd ei arestio gan Heddlu Dyfed-Powys.

Stopiodd swyddogion gar a oedd yn cael ei yrru gan y dyn 24 oed ddydd Iau 18 Mawrth ar ôl i’w batrwm teithio a’i bolisi yswiriant 24 awr godi amheuon.

Honnodd ei fod yn gwerthu’r car i rywun ym Mhort Talbot, er ei fod wedi gyrru 20 milltir heibio i’r lleoliad, a chafodd ei arestio ar amheuaeth o droseddau gyrru.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Jones: “Er ei fod wedi rhoi manylion ffug i swyddogion heddlu i gychwyn, cafodd y diffynnydd ei adnabod fel Muhajid Edwards, sydd â chysylltiadau â llinellau cyffuriau yng Nghaerdydd, a hanes o droseddau cyllyll a throseddau treisgar sylweddol.

“Rhoddodd hyn rywfaint o esboniad ar gyfer pam yr oedd yn gwisgo fest trywanu cudd pan gafodd ei arestio.”

Cynhaliwyd ymholiadau helaeth yng Nghaerdydd a Gorllewin Canolbarth Lloegr, tra bod Edwards yn cael ei wylio’n gyson yn y ddalfa oherwydd amheuaeth gref ei fod wedi cuddio cyffuriau yn ei gorff.

Treuliodd 11 diwrnod yn y ddalfa, gan wrthod bwyd a diod am 96 awr mewn ymgais i gadw’r sylweddau yn ei gorff.

“Roedd yn eithriadol o rwystrol yn ystod ein hymchwiliad. Gwrthododd sylw meddygol, gwrthododd fynediad i’w ffôn symudol, a gwrthododd fwyta ac yfed er ei fod wedi gofyn am brydau penodol,” meddai’r Ditectif Arolygydd Jones.

“Serch hynny, yr oeddem wedi casglu digon o dystiolaeth i’r GEG awdurdodi cyhuddiadau yn erbyn y drwgdybyn.

“Ar ôl 11 diwrnod, pasiodd ddau becyn. Cadarnhawyd bod y pecynnau’n cynnwys heroin a chrac cocên. Roedd y cyffuriau’n pwyso cyfanswm o 57 gram.

“Byddai’r sylweddau hyn werth dros £5000 ar y stryd.”

Cyhuddwyd Edwards, o ardal Birmingham, â dau achos o feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad o werthu, gyrru dan waharddiad, gyrru heb yswiriant, a gyrru’n groes i amodau trwydded.

Cyfaddefodd i’r cyhuddiadau ac ymddangosodd gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher 18 Mai lle y cafodd ei ddedfrydu i 66 mis o garchar.

Gan siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Jones: “Mae gan Edwards hanes sylweddol o feddu ar gyffuriau â’r bwriad o werthu, ynghyd â throseddau treisgar, gan gynnwys trywanu a lladrata, yng Nghaerdydd.

“Credir ei fod wrthi’n sefydlu llinell gyffuriau newydd yn ardal heddlu Dyfed-Powys. Yn ffodus, cafodd ei rwystro rhag gwneud hyn ar y cyfle cyntaf. 

“Oherwydd ei hanes o droseddu, a’r ffaith ei fod yn gwisgo fest trywanu, rwy’n gwbl sicr y byddai lefelau trais difrifol wedi’u defnyddio ryw bryd pe bai wedi llwyddo i sefydlu llinell gyffuriau yn ardal Dyfed-Powys.”

Diolchodd y Ditectif Arolygydd Jones i swyddogion am eu hymrwymiad a’u dyfalbarhad yn yr ymchwiliad hwn. 

“Roedd swyddogion lifrog yn cadw llygad cyson ar y drwgdybyn, tra bod swyddogion o’r tîm plismona rhagweithiol wedi gweithio yn ystod diwrnodau gorffwys ar benwythnosau er mwyn sicrhau ein bod ni’n bodloni’r llysoedd ein bod ni’n cynnal yr ymchwiliad mor ddiwyd â phosibl,” meddai.

“Roedd Edwards ei hun hyd yn oed wedi dweud wrth staff ei fod methu credu pa mor drylwyr a dyfalbarhaus oedd ein timoedd.

“Gobeithiwn y bydd y ddedfryd hon yn anfon neges glir i fasnachwyr cyffuriau y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ei gwneud hi mor anodd â phosibl iddynt ddod â chyffuriau dosbarth A i mewn i’n hardal heddlu.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.