Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyhuddwyd dyn â byrgleriaeth ar ôl gadael llwybr o olew a ddygwyd o eneradur, a arweiniodd yr heddlu o gartref y dioddefydd i’w gartref ei hun.
Llwyddodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys i ddod o hyd i Dominic William Oliver yn gyflym ar ôl iddo fwrglera ym Mhorth Tywyn un noson ym mis Mawrth.
Derbyniodd yr heddlu adroddiadau am ddwy fyrgleriaeth garej a lladrad o gar dros nos ar nos Lun 8 Mawrth. Roedd generadur, gwiail pysgota, a dau fag â phasbortau ynddynt ymysg yr eitemau a ddygwyd.
Amcangyfrifwyd bod cyfanswm gwerth yr eitemau a ddygwyd tua £800.
Dywedodd y Rhingyll Gemma Davies: “Aeth swyddog i gartrefi’r dioddefwyr a chafodd wybod am y llwybr olew. Credwyd bod yr olew o’r generadur a oedd wedi’i ddwyn.
“Dilynodd y llwybr ar hyd sawl stryd - yn eu plith, y stryd lle’r oedd Oliver wedi dwyn dau fag o gar - a darganfod ei fod yn gorffen y tu allan i eiddo ar Heol Dandorlan.
“Cytunodd Oliver i ymchwiliad gwirfoddol gael ei gynnal, ac wrth i swyddogion fynd mewn i’r eiddo, yn syth, gwelsant bac milwr â phatrwm unigryw yr oedd un o’r dioddefwyr wedi’i ddisgrifio arno.”
Gorffennwyd chwilio, gydag eitemau yr amheuwyd eu bod wedi’u dwyn yn cael eu hadfer o’r cyfeiriad, ac arestiwyd y dyn 31 oed ar amheuaeth o fyrgleriaeth o fewn 6 awr ar ôl i’r digwyddiadau gael eu hadrodd.
Wrth iddo gael ei gludo i ddalfa’r heddlu, gwnaeth Oliver sylw arwyddocaol a oedd yn ei gysylltu â lladrad y generadur.
Cafodd ei gyhuddo â dau achos o fyrgleriaeth ac un achos o ladrata, ac ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu ddydd Gwener 30 Ebrill.
Cafodd ei ddedfrydu i 12 mis o garchar wedi’i atal am 18 mis, rhaid iddo gwblhau gofyniad adsefydlu, a rhaid iddo aros yn ei gyfeiriad cartref rhwng 8y.h. a 6y.b. am dri mis.
Dywedodd y Rhingyll Davies: “Roedd hwn yn ymateb ardderchog, a arweiniodd at arestio a chyhuddo Oliver yn gyflym, a’r eiddo a ddygwyd yn cael ei adfer a’i ddychwelyd i’r dioddefwyr y diwrnod y cawsom wybod am y troseddau.
“Heb os, mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar breswylwyr Porth Tywyn, sydd wedi cyflwyno sylwadau cadarnhaol am y ffordd yr ymchwiliwyd i’r mater.
“Ymgysylltwyd â’r gymuned, cynhaliwyd patrolau a dosbarthwyd taflenni atal trosedd ar ôl yr ymchwiliad er mwyn rhoi tawelwch meddwl a chyngor.”