Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:59 01/11/2021
Mae dyn wedi’i ddedfrydu i 24 mlynedd, sef 16 mlynedd o garchar ac 8 mlynedd ar drwydded estynedig, am geisio treisio dynes a’i merch ifanc ar lwybr beicio. Y mae hefyd wedi derbyn gorchymyn atal niwed rhywiol am gyfnod amhendant.
Ymddangosodd Anthony Williams, 42 oed, o Hill Street, Hwlffordd, yn Llys y Goron Abertawe heddiw, ar ôl pledio’n euog i ddau gyhuddiad o ymgais i dreisio oedolyn benywaidd ac un cyhuddiad o geisio treisio plentyn benywaidd o dan 13 oed mewn gwrandawiad blaenorol.
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad ychydig cyn 4.50 o’r gloch brynhawn ddydd Llun 17 Mai gan ddyn a oedd wedi dod ar draws dynes mewn cyflwr gofidus iawn ar y llwybr beicio rhwng Hwlffordd a Tiers Cross.
Aeth swyddogion yno’n syth, a dywedodd y ddynes bod dieithryn wedi ceisio treisio hi a’i merch ifanc – gan eu bygwth os nad oeddent yn cydymffurfio – cyn gadael yr ardal.
Chwiliodd tîm o dditectifs yr ardal yn syth er mwyn diogelu unrhyw dystiolaeth a oedd yn gysylltiedig â’r drosedd neu ddrwgdybyn posibl, ac yn ddiweddarach, arestiwyd dyn a oedd yn ateb y disgrifiad a roddwyd i swyddogion.
Sefydlodd ymchwiliadau gysylltiadau DNA rhwng y dioddefydd mewn oed a Williams.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Cameron Ritchie:
“Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu’r ddedfryd hon. Mae’n ganlyniad ymgyrch heddlu helaeth a roddodd fawr o ddewis i Williams ond pledio’n euog.
“Roedd hwn yn ymosodiad erchyll, yn ystod pa un y ceisiodd y diffynnydd dreisio mam a’i phlentyn ifanc iawn sawl gwaith. Ar gyfer y fam yn arbennig, yr oedd yn brofiad arswydus – nid yn unig am ei bod hi’n mynd drwy’r trawma o ddioddef ymosodiad ei hun, ond am ei bod hi’n gweld ei merch yn cael ei thrin mewn ffordd mor ffiaidd.
“Hoffwn ddiolch i’r dioddefwyr a’u teulu am y dewrder a’r urddas maen nhw wedi dangos yn ystod ein hymchwiliad. Hefyd, hoffwn ddiolch i’r aelodau o’r cyhoedd a gynorthwyodd y dioddefwyr ar y pryd ac a helpodd ymchwiliad yr heddlu. Roedd eu cymorth yn amhrisiadwy.
“Yr wyf nawr yn gobeithio bod y ddedfryd hon yn rhoi’r cyfiawnder y maent yn ei haeddu i’r dioddefwyr, ac yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt i’w galluogi i symud ymlaen â’u bywydau.
“Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys yn dioddef trais yn erbyn menywod a merched, a gobeithio bydd y canlyniad yn yr achos hwn yn rhoi hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen. Byddwn yn eich trin o ddifri ac yn eich cefnogi wrth inni weithio i ddwyn troseddwyr i gyfiawnder.”