Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes a achosodd farwolaeth merch fach 6 mis oed ar ôl iddi yrru dan ddylanwad alcohol fis diwethaf wedi’i heuogfarnu a’i dedfrydu i 4 blynedd o garchar.
Cyfaddefodd Lucy Dyer, 23 oed, o Deras Heulwen, Llanelli, ei bod hi wedi achosi marwolaeth Eva Maria Nichifor drwy yrru’n beryglus yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe heddiw.
Arestiwyd Dyer ddydd Gwener 8 Hydref yn dilyn gwrthdrawiad ar Heol Goffa, Llanelli, lle y methodd ildio wrth gyffordd a tharo cerbyd a oedd yn cael ei yrru gan dad Eva Maria, Florin.
Dioddefodd Eva Maria, a oedd yn teithio yn y car, anafiadau i’w phen nad oedd modd gwella ohonynt, ac yn drist, bu farw yn Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd y diwrnod canlynol.
Atebodd Dyer ‘dim sylw’ pan gafodd ei chyfweld gan yr heddlu. Fe’i cyhuddwyd ar ôl hynny o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a gyrru pan oedd dros y terfyn a ragnodir, a chafodd ei chadw yn y ddalfa.
Darparodd Dyer sbesimen o 46 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl. 35 yw’r terfyn cyfreithlon.
Mewn datganiad a ddarllenwyd i’r llys o’r effaith ar ddioddefydd, dywedodd Carmen, mam Eva Maria, “Des i’r wlad hon er mwyn sicrhau bywyd gwell ar gyfer fy nheulu a minnau, ond yn lle hynny, mae ein teulu wedi’i chwalu.
“Ar ôl i’r trychineb hwn ddigwydd, roeddwn i’n methu cysgu, anaml iawn yr oeddwn yn bwyta, a phan oeddwn yn cau fy llygaid, roeddwn ond yn ei gweld hi. Nid oedd fy ngŵr yn medru gweithio rhagor, na fy mam, ac nid oeddem yn medru ennill bywoliaeth. Yr ydym wedi profi anawsterau o ran cyfathrebu â’r heddlu a’r yswiriant. Mae’n siŵr na ddylem fod wedi’u profi’r pethau hyn.
“Yn y tŷ lle’r ydym yn byw, ni allwn weld ein lle yno heb ein Eva fach ni, oherwydd bobman yr ydym yn edrych, ry’n ni ond yn gweld atgofion ohoni, pa mor hapus oedd hi gyda ni, a sut y dysgom beth yw ystyr hapusrwydd gyda hi.
“Mae’r tŷ’n wag hebddi. Ni allwn aros yn yr ystafell lle’r oeddem arfer byw gyda hi, lle gynt y buom yn chwarae gyda hi drwy’r amser. Rwy’n methu mynd mewn i’r ystafell nawr oherwydd rwy’n cofio pa mor hapus oedd hi pan oedd y tri ohonom gyda’n gilydd.
“Mae ein hysbryd yn isel, a’r cyfan ry’n ni eisiau yw cyfiawnder ar gyfer ein baban bach oherwydd cafodd ei chymryd oddi wrthym yn rhy fuan.”
Dywedodd yr ymchwilydd arweiniol, y Rhingyll Sara John o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol, “Mae penderfyniad Lucy Dyer i yrru yn y ffordd a wnaeth pan oedd mwy o alcohol yn ei chorff na’r hyn a ganiateir yn gyfreithlon wedi dinistrio bywydau teulu Eva Maria’n llwyr.
“Ni ellir dadwneud y dinistr mae hi wedi achosi, ac ni fydd yr un ddedfryd a gyflwynir heddiw byth yn ddigon.
“Mae rhieni Eva Maria wedi dangos cryfder ac urddas rhyfeddol drwy gydol yr ymchwiliad hwn.”
Gwaharddwyd Dyer, a gyfaddefodd i gyhuddiad o yfed a gyrru hefyd, rhag gyrru am 5 mlynedd, a bydd yn rhaid iddi lwyddo mewn prawf estynedig cyn y caiff gyrru eto.