Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddwas profiadol o Heddlu Dyfed-Powys, sydd wedi ‘dod o hyd i’w alwad’ ym maes Plismona Bro, wedi cael ei enwi’n bencampwr y bobl yng ngwobrau’r heddlu eleni.
Enwebwyd PC Leigh Jones o Sir Benfro am wobr #Gofalu gan aelodau o’r cyhoedd am ei wasanaeth rhagorol i’w gymuned.
Mewn gyrfa o bron i 20 mlynedd hyd yn hyn, mae Leigh wedi gweithio fel Swyddog Ymateb, Swyddog Arfau Tanio ac wedi canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â thaclo cyffuriau.
“Mae ei lwybr gyrfa yn dangos ei fod yn hoffi bod yn ei chanol hi,” meddai’r goruchwyliwr PS Mark Murray.
“Felly, roedd yn syndod mawr i lawer pan wnaeth Leigh gais, ddwy flynedd yn ôl, am le yn y Tîm Plismona Bro a llwyddo, ond mae wedi dod o hyd i’w alwad.”
Mewn cyfnod cymharol fyr, mae Leigh wedi cyflawni sawl peth nodedig yn y rôl.
Enwebwyd Leigh gan Sarah Greener, sy’n gweithio i elusen leol sy’n cefnogi pobl ag arthritis. Fe’i henwebwyd am fod mor barod ei gymwynas bob amser ac am ei ymdrechion i gefnogi gwaith sefydliadau lleol.
“Mae wedi helpu i roi cyhoeddusrwydd i ni ac mae bob amser yn awyddus i’n helpu,” meddai Sarah.
“Mae pobl yn aml yn meddwl am yr heddlu pan fydd rhywbeth wedi mynd o’i le, felly mae gweld y Tîm Plismona Bro mewn digwyddiadau lleol gadarnhaol yn helpu i newid y ddelwedd honno ac yn tynnu sylw at y pethau penodol, megis gwiriadau lles y mae’r Tîm Plismona Bro yn eu gwneud.
“Mae’n gwneud iddyn nhw ymddangos yn fwy agos atoch chi, a’u bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn lleol.”
Ynghyd â’i dîm o Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, mae Leigh wedi gweithio i feithrin perthynas dda gyda phobl ifanc leol, gan ymgysylltu â nhw mewn ffordd gadarnhaol ac ennill eu hymddiriedaeth.
Drwy’r rhyngweithio hwn, cynlluniau dargyfeiriol a thrwy weithio’n agosach gyda gwasanaethau ieuenctid, mae Leigh wedi arwain drwy esiampl wrth geisio lleihau nifer y digwyddiadau aflonyddgar neu wrthgymdeithasol yn y dref.
Fel un sy’n gallu datrys problemau’n naturiol, arweiniodd fenter aml-asiantaeth a gynlluniwyd er mwyn gwella ansawdd bywydau pobl yn Hwlffordd: dyma enghraifft o arfer gorau a ddenodd sylw uwch swyddogion ac a fydd yn cael ei chyflwyno ledled y sir.
Mae Leigh yn mynychu Coleg Sir Benfro yn rheolaidd ac wedi arwain mentrau sy’n ymdrin â materion fel bwlio, ymwybyddiaeth o gyffuriau, atal cyffuriau a mwy.
“Mae Leigh yn gaffaeliaid mawr i’r Tîm Plismona Bro ac yn hapus i gefnogi plismona ymateb pan fo angen.
“Does byth angen gofyn iddo: os yw Leigh ar ddyletswydd, bydd yn cefnogi ac yn helpu bob amser.”
Mae’r wobr #Gofalu yn gyfle i’r cyhoedd enwebu heddwas, gwirfoddolwr neu aelod o staff i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymdrechion.
Gallai fod yn Swyddog Cefnogi Cymunedol lleol sydd wedi mynd i’r afael â mater hirhoedlog o fewn y gymuned; yn heddwas sydd wedi dangos gofal rhyfeddol tuag at ddioddefwr trosedd; yn swyddog cyswllt ysgolion sydd wedi arwain plentyn drwy sefyllfa anodd; neu’n swyddog ymholiadau cyhoeddus cyfeillgar ar gownter blaen un o’n gorsafoedd.
Dywedodd Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, Claire Parmenter: “Mae Gofalu yn wobr uchel ei pharch oherwydd rydyn ni wir yn gwerthfawrogi adborth y cyhoedd ac rydyn ni mor falch o glywed sut mae ein staff yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau.”