Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn falch o gefnogi'r ymgyrch i ddiddymu trais yn erbyn menywod gan ddynion eto eleni.
Mae’r heddlu wedi sefyll yn erbyn pob math o drais gan ddynion yn erbyn menywod drwy fod ȃ Achrediad Rhuban Gwyn, ac mae'r baner Rhuban Gwyn yn hedfan uwchben y Pencadlys yng Nghaerfyrddin.
Ymgyrch fyd-eang sy’n annog pobl, yn arbennig dynion a bechgyn, i weithredu a newid yr ymddygiad a’r diwylliant sy’n arwain at gam-drin a thrais yw’r Ymgyrch Rhuban Gwyn. Mae gwisgo rhuban gwyn yn golygu addo peidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod, esgusodi trais o’r fath gan ddynion, na chadw’n dawel amdano.
Bob blwyddyn mae gwasanaethau a phartneriaid cam-drin domestig yn cynnal digwyddiadau i godi proffil yr ymgyrch a Diwrnod Rhuban Gwyn, sy'n digwydd ar Tachwedd 25.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter: “Rwy’n falch fy mod yn gwisgo fy rhuban gwyn heddiw ac yn cefnogi’r ymgyrch fyd-eang i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.
“Mae angen i ddioddefwyr fod â’r hyder i adrodd ar gam-drin domestig, ac mae hwn yn gyfle i ddangos fy ymrwymiad i weithio gyda phartneriaid i ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Rwy’n falch ein bod yn parhau â’n hachrediad Rhuban Gwyn, gan ddangos ein hymrwymiad i sefyll yn gadarn a mynd i’r afael â phob trais yn erbyn menywod.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: “Mae’r Ymgyrch Rhuban Gwyn yn tynnu sylw at neges bwysig i ni bob blwyddyn: Creu dyfodol heb drais dynion yn erbyn menywod.
“Mae'r math hwn o gam-drin yn effeithio ar blant yn ogystal â dioddefwyr, ac mae'r effeithiau'n aml yn para'n hir a gallent gynyddu bregusrwydd oedolion yn sylweddol.
“Mae’n flaenoriaeth inni weithio gyda phartneriaid i sicrhau eu bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
“Ymunwch â ni i addo i beidio byth ag ymrwymo, cydoddef neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod. Rydym yn parhau i ddal ein statws achrededig Rhuban Gwyn y DU, gan weithio ar gynllun gweithredu i gyflawni'r gwasanaeth gorau i ddioddefwyr a goroeswyr.”
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys achrediad o ganlyniad i weithio gyda Rhuban Gwyn y DU i lunio cynllun gweithredu 3 blynedd ar gyfer gosod y nodau a fydd yn sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod. Y cynllun gweithredu yw’n hymrwymiad tuag at sicrhau ein bod ni’n cyflawni’r gwasanaeth gorau ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr, a’n bod ni’n gwella lle bynnag y bo’n bosibl.
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn cychwyn 16 diwrnod o weithredu, ar draws partneriaeth ranbarthol Dyfed Powys.
Mi roedd y ddau ddarparwr gwasanaeth DAS Threshold a Goleudy yng Nghanolfan Elli yn Llanelli ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn i siarad am Drais yn erbyn Menywod.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn codi ymwybyddiaeth o Stelcio Seiber gyda phartneriaid a thimau cam-drin domestig fel eu bod yn gwybod sut i gynghori dioddefwyr i gadw'n ddiogel rhag y math hwn o gam-drin, a chwalu chwedlau ynghylch cam-drin pobl hŷn, er mwyn helpu i chwalu rhwystrau a’u hannog i adrodd.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn goleuo Neuadd y Sir mewn porffor i adlewyrchu lliwiau'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, ac maent wedi creu fideo i godi ymwybyddiaeth - https://vimeo.com/643902376.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r ymgyrch rhuban gwyn, neu er mwyn tyngu llw i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben, galwch heibio i www.whiteribboncampaign.co.uk
Gall unrhyw un sy’n teimlo ei fod yn cael ei gam-drin, neu sy’n poeni am ffrind neu aelod o’r teulu, alw’r heddlu ar 101, neu riportio arlein https://bit.ly/DPP101Online Gallwch hefyd alw Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.
I ddysgu mwy am Byw Heb Ofn, ewch i www.livefearfree.gov.wales
Am gymorth cyfrinachol am ddim, cysylltwch â Goleudy, gwasanaeth sydd wedi’i gomisiynu ar gyfer dioddefwyr a thystion trosedd. Galwch 0300 123 2996, e-bostiwch [email protected].
Arwyddion i gadw llygad allan amdanynt::
Am gefnogaeth a chyngor:
Os ydych chi’n rhoi gwybod i’r heddlu am gam-drin wrth iddo ddigwydd, galwch 999.