Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau bod y tri unigolyn a fu farw yn dilyn digwyddiad ar yr afon Cleddau ddydd Sadwrn 30 Hydref 2021 wedi’u hadnabod yn ffurfiol fel Morgan Rogers, 24 oed o Gefn Coed, Merthyr Tudful, Nicola Wheatley, 40 oed o Bontarddulais, Abertawe, a Paul O’Dwyer, 42 oed, o Draethmelyn, Port Talbot.

Teyrnged gan deulu Morgan Rogers
“Morgan Rogers oedd y gorau y gallai hi fod. Bydd colled fawr ar ei hôl gan ei mam, ei thad, Rhys, Harry, Holly a Katy”.

Teyrnged gan deulu Nicola Wheatley
“Yr ydym wedi’n chwalu’n llwyr gan ein colled. Roedd Nicola yn fam, merch, merch-yng-nghyfraith a gwraig gariadus. Roedd Nicola yn berson hardd, gofalgar, ystyriol a doniol. Roedd hi'n anhygoel ym mhob ffordd.
Mae hi wedi gadael gwagle yn ein bywydau na fydd byth yn cael ei lenwi.
Hoffem nawr gael amser i alaru a byddem yn gofyn am gael preifatrwydd i wneud hynny.”
Teyrnged gan gydweithwyr Nicola Wheatley
“Cychwynnodd Nikki ei swydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ym mis Gorffennaf 2006 fel Arbenigwr mewn Gwybodaeth Gwenwynau gyda'r Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth Gwenwynau yng Nghaerdydd, ar ôl cychwyn ei gyrfa mewn tocsicoleg gyda Guy’s and St Thomas, Llundain.
Yn aelod profiadol o’r tîm ymholiadau ffôn 24/7, rhoddodd Nikki gyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â rheoli cleifion a oedd wedi’u gwenwyno. Bydd hi’n cael ei chofio am ei ffordd ddigynnwrf, gyfeillgar a chwbl broffesiynol – hyd yn oed yn wyneb yr achosion anoddaf.
Roedd Nikki’n gydweithiwr brwdfrydig, ymroddedig a galluog tu hwnt. Ati hi yr oeddem yn mynd pan oedd angen trefnu prosiectau ac ymgyrchoedd. Yn ddiweddar, goruchwyliodd brosiect heriol a chymhleth yn datblygu taflenni diogelwch ar gyfer cydweithwyr yn fferyllfa uned y Santes Fair yn llwyddiannus. Cofir am Nikki hefyd fel gwyddonydd galluog ac ymroddedig a wnaeth gyfraniadau sylweddol i’r maes tocsicoleg. Cyflwynodd ei gwaith ar lefel genedlaethol.
Drwy ei phersonoliaeth hyfryd, gwnaeth Nikki nifer o ffrindiau yn ystod ei hamser gyda’r gwasanaeth cyhoeddus, a bydd ei ffrindiau a'i chydweithwyr yn y Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth Gwenwynau ei cholli hi'n fawr. Mae Nikki’n gadael ei theulu ifanc, gŵr a theulu estynedig. Mae ein meddyliau ni gyda nhw yn ystod y cyfnod erchyll hwn.”

Teyrnged gan deulu Paul O’Dwyer
“Â thristwch mawr, cyhoeddwn farwolaeth Paul O'Dwyer, 42 oed, a roddodd ei fywyd er mwyn achub eraill.
Yr oedd yn ŵr, tad, mab a brawd ffyddlon. Rhoddodd ei fywyd i gyfrannu at gymdeithas yn ei amryw anturiaethau wrth godi arian at wahanol achosion.
Babi dŵr oedd Paul. Dechreuodd ei angerdd am y dŵr gydag achubwyr bywyd Aberafan o oed ifanc.
Roedd ei allu chwaraeon yn ymestyn i lawer o wahanol chwaraeon. Roedd yn bencampwr syrffio'r fyddin, aelod o dîm rygbi 7-bob-ochr y Fyddin Brydeinig, chwaraewr rygbi Aberavon Green Stars, hyfforddwr sgïo ac fe gymerodd ran sawl gwaith yn nigwyddiadau Tri Chopa Prydain a Chymru.
Roedd ei restr gyflawni hefyd yn cynnwys Marathon Llundain, yn rhedeg ras 100 milltir, nifer o driathlonau gan gynnwys Ironman Cymru ac yn ddiweddar Stand Up Paddle yn byrddio 100 milltir mewn 21 awr i godi arian ar gyfer sgrinio'r galon ym Mhort Talbot. Helpodd Paul hefyd i sefydlu elusen Sa1ute i gefnogi cyn-filwyr.
Rydyn ni fel teulu yn wirioneddol ddiolchgar am y negeseuon caredig a anfonwyd atom yn ein hamser o dristwch mawr.”
Mae dynes yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad, ac mae ein meddyliau dal gyda theuluoedd y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r ddamwain. Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad i gysylltu drwy’r Porthol Cyhoeddus dynodedig.