Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddog heddlu ‘proffesiynol a thosturiol’ o Hwlffordd wedi derbyn y teitl Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol Heddlu Dyfed-Powys.
Disgrifiwyd Emily Silvester, sydd wedi bod yn gwnstabl heddlu ers llai na dwy flynedd, fel rhywun sy’n gymwys ‘tu hwnt i’w blynyddoedd o wasanaeth’. Fe’i henwebwyd ar gyfer y wobr gan grŵp o’i chydweithwyr.
Dywedodd Cwnstabl Daniel Richards: “Mae Emily’n cyflawni’r rôl fel pe bai wedi bod yn swyddog heddlu ers blynyddoedd lawer. Mae’n gwbl ddigynnwrf. Does dim byd yn ei hysgwyd. Ers pasio ei thiwtoriaeth, mae Emily wedi mynd o nerth i nerth. Mae’n aelod gwerthfawr o’n tîm.”
Meddai’r Rhingyll Antonia Trueman: “Mae’n anodd nodi un adeg benodol pan oedd Emily’n neilltuol - mae’n swyddog heddlu tosturiol a phroffesiynol sy’n gweithio’n galed yn gyson.
“Mae’n fodel rôl i bawb o’i chwmpas. Byddech chi byth yn gwybod mor newydd yw hi i’r swydd oherwydd mae’n cyflawni ei rôl â chymhwysedd sydd tu hwnt i’w blynyddoedd o wasanaeth.”
Mae’r wobr Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn yn cydnabod unigolion sy’n newydd i’r sefydliad ac sydd eisoes yn dangos ymrwymiad neilltuol i’w datblygiad proffesiynol, cyflenwi gwasanaeth ardderchog, neu gael effaith sylweddol a chadarnhaol ar eu maes gwaith.
Ychwanegodd Cwnstabl Eve Rees: “Mae Emily’n ymgorffori gwerthoedd Heddlu Dyfed-Powys. Mae’n aelod ymroddedig a gwerthfawr o’r tîm sy’n dangos lefel proffesiynoldeb uchel wrth ymdrin â’r cyhoedd a’i chydweithwyr. Mae’n gweithio’n galed, yn boblogaidd, ac yn ysbrydoliaeth i eraill. Mae’n bleser gweithio gydag Emily.”
Mae gwobrau blynyddol Heddlu Dyfed-Powys yn dathlu talent ac yn rhoi cyfle i unigolion a thimoedd gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymrwymiad, eu gwaith caled, eu cyflawniadau a’u llwyddiannau.
Mae’r seremoni wobrwyo, a gynhelir yn rhithwir ar 19 Tachwedd, yn arddangos peth o waith neilltuol yr heddlu, â ffocws ar y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad neilltuol i’r blaenoriaethau plismona.