Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:35 22/10/2021
Cyflawnodd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys 11 cyrch yn ystod wythnos o weithredu ar gyfer mynd i’r afael â gangiau llinellau cyffuriau.
Gwelodd wythnos ddwysáu llinellau cyffuriau (Dydd Llun 11 Hydref i ddydd Sul 17 Hydref) swyddogion yn cynnal gwarantau, rhyng-gipio cerbydau a oedd o bosibl yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau, ac yn cydweithio â phartneriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
Arestiwyd 17 unigolyn yn ystod yr wythnos, ac atafaelwyd crac cocên (0.8 gram), heroin (77 gram) a chocên (6 gram).
Amcangyfrifir mai tua £4,500 yw gwerth y cyffuriau hynny, tra bod swyddogion wedi atafaelu £6,500 o dan y Ddeddf Elw Troseddau.
Atafaelwyd pastwn ymestynnol a chylchgrawn ffrwydron rhyfel hefyd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dros Dro Andrew Cotterell: “Roedd yr wythnos ddwysáu llinellau cyffuriau’n llwyddiant ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a chawsom nifer o ganlyniadau ardderchog diolch i waith rhagweithiol swyddogion a staff yr heddlu ar draws y pedwar rhanbarth.”
Yn ogystal â gwarantau rheng flaen a gwaith heddlu, digwyddodd llawer tu ôl i’r llenni hefyd, gan arwain at:
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Cotterell: “Ychydig iawn o bobl sy’n ymwybodol o’r gwaith sy’n digwydd tu ôl i’r llenni er mwyn cefnogi dioddefwyr, neu’r mesurau a roddwyd mewn grym er mwyn atal pobl rhag dod yn ddioddefwyr mynych troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.”
“Mae’n bwysig iawn i ni fel heddlu ein bod ni hefyd yn cymryd ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y dioddefydd tuag at weithio gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y gangiau hyn i’w hatal rhag dod yn ddioddefwyr mynych, yn ogystal â gweithredu ar unrhyw gudd-wybodaeth newydd ar gyfer aflonyddu ar linellau cyffuriau.”