Stamp amser presennol: 10/12/23 20:12:35
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Go to Dyfed Powys Police homepage

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Riportio sbeicio
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Riportio trosedd gasineb
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan

Carcharu dyn am ymosod ar dri swyddog yn ystod arést

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Sir Gaerfyrddin

Cyhoeddwyd: 17:04 20/10/21

Dioddefodd tri swyddog a oedd yn cyflawni eu dyletswyddau anafiadau mewn ymosodiad digymell wrth law’r dyn yr oeddent yn ceisio’i arestio.

Yr oedd swyddogion wedi gweithredu gwarant yng nghartref John Steven Knight, ar Stryd Stafford, Llanelli, ar gyfer mater digysylltiad. Gan nad oedd y dyn 37 oed adref, aeth Cwnstabl Jaye Blanco-Martin, y Ditectif Gwnstabl Eleri Owen, a chydweithwraig sydd ddim eisiau cael ei henwi, i’w weithle yn Rhydaman. 

Wrth i swyddogion siarad â Knight, i gychwyn, yr oedd yn ddigynnwrf ac ufudd. Ond yna, ceisiodd ddatgloi ei ffôn.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl sydd ddim yn cael ei henwi: “Â minnau’n ofni bod Knight yn ceisio dileu tystiolaeth a rhwystro ymchwiliad heddlu, gafaelais yn ei fraich chwith er mwyn ceisio cymryd y ffôn wrtho.

“Newidiodd personoliaeth Knight a’i agwedd tuag at y swyddogion yn syth.

“Symudodd ei ffôn i’w law arall, a dechreuodd ymladd yn ein herbyn ar unwaith. Yr oedd yn tynnu i ffwrdd, ac yn amlwg yn ceisio dianc.

“Yn ddisymwth, teimlais Knight yn fy ngwthio, gan ddefnyddio holl bwysau ei gorff. O ganlyniad uniongyrchol i’r ergyd hwn, syrthiais i’r llawr, gan daro fy mhen. Teimlais boen ac anghysur i’m pen yn syth, ac fe ddechreuodd guro.” 

Yn y ffrwgwd, glaniodd y tri swyddog ar y llawr ar ôl cael eu gwthio a’u taflu yn erbyn celfi, welydd a ffrâm drws.

Er waethaf ymdrechion Knight, llwyddodd y swyddogion i’w arestio, er eu bod wedi’u gadael â’r marciau i ddangos eu bod nhw wedi bod mewn ffrwgwd.

Amheuwyd bod un swyddog yn dioddef anaf pen, ac roedd angen sgan CT arni. Dioddefodd y tair ohonynt friwiau a chleisiau mewn mannau gwahanol ar eu cyrff.

Ychwanegodd y swyddog: “Yr oeddwn yn bryderus iawn ynghylch diogelwch fy nghydweithwyr a minnau. Roedd Knight yn ddyn cryf ei gorff a dros 6 troedfedd o ran taldra, ac roedd ganddo’r cryfder i dynnu tri swyddog i’r llawr gydag ef.”

Ymddangosodd Knight gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ar 29 Medi, y diwrnod ar ôl iddo gael ei arestio, ar 28 Medi, pan gafodd ei ddedfrydu i 12 mis o garchar. 

Yn dilyn y profiad brawychus, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Owen: “Yn ystod y digwyddiad, yr oeddwn yn poeni am ddiogelwch fy nghydweithwyr, yn ogystal â’m diogelwch fy hun.

“Yr oeddwn yn teimlo’n agored i niwed gan mai dim ond tair dynes oedd gyda dyn tua 6’2” o ran taldra a oedd yn gwrthod arést ac yn ymosod ar swyddogion.

“Ni fyddaf byth yn anghofio hyn. Bydd yn rhywbeth a fydd yn aros gyda mi drwy gydol fy ngyrfa. Nid oeddwn yn disgwyl mynd i’r gwaith y diwrnod hwnnw i ddioddef ymosodiad. Yr oeddwn ond yn gwneud fy ngwaith.”

Yn dilyn cynnydd mewn ymosodiadau o’r fath, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cydgysylltu â gwasanaethau brys Cymru i lansio’r ymgyrch blwyddyn o hyd ‘Gweithiwch Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn’.

Sefydlwyd yr ymgyrch hon ar ôl i 4240 o ymosodiadau gael eu cyflawni yn erbyn gweithwyr brys, gan gynnwys swyddogion heddlu, swyddogion tân a chriwiau ambiwlans, rhwng Ebrill 2019 a Thachwedd 2020, sy’n cynrychioli cynnydd misol o 202 yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%, ar gyfartaledd.

Dywedodd, Emma Ackland, Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys: “Mae ymosodiadau ar swyddogion heddlu’n parhau i gynyddu, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Ni ddylai’r un swyddog ddisgwyl dioddef unrhyw fath o ymosodiad wrth wneud ei orau glas i wasanaethu’r cyhoedd, ac o bosibl, arbed bywydau.

“Mae’n hollbwysig bod dedfrydau a roddir yn adlewyrchu’r niwed a’r gofid a achosir i’r dioddefwyr hyn – gweithwyr proffesiynol sy’n gwneud eu gwaith.”

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i'r wefan hon weithio.
 
Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich gosodiadau, deall sut mae pobl yn defnyddio'r wefan a gwneud gwelliannau.
 
Gweler gwybodaeth cwcis
 

Rwy'n iawn gyda hynny Dydw i ddim yn iawn gyda hynny

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.