Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a lofruddiodd ei fam â morthwyl, ac a barhaodd i fyw yn ei chartref gyda’i chorff, wedi’i ddedfrydu i oes o garchar.
Bydd Dale Morgan, 43 oed, o Honeyborough Green, Neyland, yn treulio isafswm o 21 mlynedd a chwech mis yn y carchar ar ol cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe am lofruddio Judith Rhead.
Cafwyd hyd i'w chorff yn ei chartref ar Stryd y Farchnad, Doc Penfro, ddydd Sadwrn 20 Chwefror 2021. Cafodd ei tharo 14 o weithiau ar ei phen â’r morthwyl y daeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys o hyd iddo ar y llawr ger ei chorff.
Arestiwyd Morgan yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ac mae wedi bod yn y ddalfa ers hynny, gan bledio’n euog i lofruddiaeth mewn gwrandawiad ar 31 Awst.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler, bod yr ymchwiliad wedi gweld adrannau ar draws yr heddlu’n cyd-dynnu er mwyn cael cyfiawnder i Judith a’i theulu, sydd mewn galar.
“Dioddefodd Judith Rhead ymosodiad erchyll,” meddai. “Roedd y ffaith bod hyn dan law ei mab ei hun ac yn ei chartref ei hun ond yn ychwanegu at greulondeb ac erchylltra’r hyn a ddioddefodd.
“Gweithiodd ein swyddogion yn galed er mwyn dal ei llofrudd a’i ddwyn i gyfiawnder, a gyflawnwyd yn brydlon a phroffesiynol.
“Roedd yr ymchwiliad yn ymrwymiad mawr, a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â dod i’r penderfyniad hwn heddiw.
“O’r swyddogion a warchododd y lleoliad ac a gyflawnodd ymholiadau o dŷ i dŷ i’r ymchwilwyr, dylai pob un ohonynt fod yn falch eu bod wedi helpu i sicrhau cyfiawnder ar gyfer Judith.”
Gwelwyd Judith yn fyw ddiwethaf ar 11 Rhagfyr, a chredir ei bod wedi’i llofruddio cyn y Nadolig gan fod anrhegion heb eu hagor dal yn ei chartref.
Parhaodd Morgan i fyw yn fflat ei fam wrth iddo geisio cuddio’r hyn yr oedd wedi’i wneud, gan gerdded ei chi a dweud celwydd wrth ei ffrindiau, a oedd yn poeni amdani, pan holasant lle’r oedd hi.
Ar ôl iddo gael ei arestio, ni atebodd Morgan unrhyw gwestiwn a ofynnwyd iddo wrth gael ei gyfweld, ac nid yw dal wedi rhoi unrhyw fath o gyfrif o’r hyn ddigwyddodd na rheswm pam.
Fodd bynnag, ar 23 Chwefror 2021, wrth aros am ddolen fideo i’r llys, dywedodd y diffynnydd wrth swyddog, “Â bod yn onest, mae’n ryddhad bod pethau fwy neu lai allan o’m dwylo i nawr.”
Er nad oedd modd iddynt ddod o hyd i gymhelliad pendant, llwyddodd ymchwilwyr i brofi bod Morgan yn defnyddio cyfrif banc Judith a’i bod hi’n credu ei fod yn cymryd ei chyffuriau presgripsiwn.
Ychwanegodd y Ditectif Ringyll Butler: “Hoffwn ddiolch i deulu a ffrindiau Judith am eu gonestrwydd, amynedd ac urddas drwy gydol yr ymchwiliad.
“Mae ein meddyliau ni gyda nhw, a gobeithiwn y bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhyw fath o ben ar y mater ac yn eu caniatáu i alaru amdani.”