Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi derbyn dedfryd o 30 mlynedd – 22 mlynedd o garchar â chyfnod estynedig 8 mlynedd ar drwydded – am dreisio a cham-drin plant yn rhywiol yn dilyn ymchwiliad trylwyr gan Heddlu Dyfed-Powys.
Dedfrydwyd Jason James, 48 oed, gynt o St Clements Road, Neyland, yn Llys y Goron Abertawe heddiw ar ôl cael ei ganfod yn euog yn dilyn prawf o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn, ymosod drwy dreiddio, tair achos o dreisio plentyn iau na 13 oed, a dau achos o ymosod yn rhywiol ar blentyn iau na 13 oed.
Roedd y cyhuddiadau’n ymwneud â phedwar plentyn. Cefnogwyd y plant drwy gydol yr ymchwiliad gan swyddogion arbenigol o Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Kieran Griffiths: “Arestiwyd James i gychwyn am dorri ei Orchymyn Atal Troseddau Rhywiol ym mis Mai 2019. Derbyniodd y gorchymyn hwn yn dilyn adroddiad ei fod wedi bod yng nghwmni plant heb oruchwyliaeth.
“Hoffem ddiolch i’r unigolion hynny a’u teuluoedd a ddaeth ymlaen bryd hynny.”
Wrth i’r ymchwiliad i’r materion hyn ddatblygu, datgelwyd lefel y ffieidd-dra y gorfododd James ar y plant diniwed hyn mewn ymosodiadau erchyll.
Cyfaddefodd James i bedwar achos o dorri ei Orchymyn Atal Troseddau Rhywiol cyn yr achos llys, ond gwadodd yr holl gyhuddiadau eraill.
Ychwanegwyd dau achos pellach o dorri ei Orchymyn Atal Troseddau Rhywiol, a osodwyd arno dros ddegawd yn ôl, cyn iddo gael ei ddedfrydu heddiw. Roeddent yn dyddio o 2019 ac yn ymwneud â dau blentyn arall.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Griffiths ei fod yn falch bod James wedi derbyn dedfryd hir. Yr oedd yn gobeithio y byddai’n dod â rhywfaint o gysur i’r dioddefwyr.
“Mae’n dda cael y canlyniad hwn ar gyfer y dioddefwyr a’u teuluoedd, sydd wedi dangos llawer iawn o ddewrder ac urddas drwy gydol yr ymchwiliad a’r broses llys,” meddai.
“Mae James yn ddyn ystrywgar. Ceisiodd osgoi mynd i’r llys, ond ystyriwyd ddwywaith ei fod yn ffit i sefyll prawf.
“Yna, gwrthododd fynd i’r llys ddiwrnod yr achos, gan ddangos difaterwch llwyr tuag at ei ddioddefwyr a’u dioddefaint.
“Bu’r ymchwiliad hwn yn dasg enfawr ar gyfer swyddogion a staff mewn adrannau amrywiol yn Heddlu Dyfed-Powys, felly rwy’n falch bod eu gwaith caled wedi dwyn ffrwyth.
“Y gobaith yw y bydd y ddedfryd a roddwyd i James heddiw’n helpu’r holl ddioddefwyr a’u teuluoedd i symud ymlaen â’u bywydau.
“Fel mae’r achos hwn yn dangos, byddwn bob amser yn trin adroddiadau o’r math hwn yn ddifrifol ac yn trin dioddefwyr yn sensitif, gan roi cymorth arbenigol drwy gydol yr ymchwiliad a’r gweithdrefnau llys.”
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Phil Kite: “Mae James yn ysglyfaethwr rhywiol peryglus, ac mae’r ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb ei droseddu a’i effaith ar y dioddefwyr.”
Bydd James yn aros ar y Gofrestr Troseddwyr Rhywiol am gyfnod amhendant.