Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae modurwr a geisiodd feio’i gyflymder o 105 a 92 milltir yr awr ar y draffordd ar bensiynwr diarwybod wedi cael ei garcharu.
Gwelwyd Harald Plumb, 61 oed, o Frynmead, Bryn, Llanelli yn teithio ar 105 milltir yr awr ar yr M4 i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffordd 48 a Phont Abraham tua 12.45pm ar 26 Mawrth 2020.
Tua 1.30pm, cafodd ei Mercedes ei weld yn teithio 92 milltir yr awr wrth fynd i’r cyfeiriad arall.
Anfonwyd hysbysiad o fwriad i erlyn ato ar 30 Mawrth, 2020, ac atebodd drwy enwi dyn 70 oed o Abertawe, ar 3 Ebrill, 2020.
Mewn ymateb i lythyr gan y Swyddfa Docynnau Ganolog i’r dyn 70 oed, anfonodd lythyr yn ôl yn dweud nad oedd yn adnabod y cerbyd nac yn gwybod pwy oedd yn defnyddio’i fanylion.
Pasiwyd y mater ymlaen at y Cwnstabl John Whiles yn nhîm ymholiadau troseddol GAN BWYLL gan ei bod yn ymddangos bod y diffynnydd wedi enwi’r dyn ar gam er mwyn osgoi erlyniad, gan felly wyrdroi cwrs cyfiawnder cyhoeddus.
Yn ei gyfweliad cychwynnol, heriwyd Plumb yngylch y ffaith bod y dyn 70 oed yn gwadu ei fod yn ei adnabod na bod ganddo fynediad at ei gerbyd. Parhaodd y diffynnydd i ddweud celwydd a honni bod y dyn yn gyrru ei gar y diwrnod hwnnw i’w brofi, wedi iddo hysbysebu ei fod ar werth.
Yna, wrth ymholi, edrychodd y Cwnstabl Whiles ar weithgarwch telegyfathrebu ffôn y diffynnydd ar ddiwrnod y drosedd goryrru. Datgelodd hyn fod ffôn symudol y diffynnydd yn trosglwyddo signal yn agos i leoliad y troseddau goryrru gwreiddiol.
Cymerwyd datganiadau pellach gan y dyn 70 oed a’i wraig, a rhoddasant hefyd ganiatâd i’w ffonau symudol gael eu chwilio ar gyfer amser perthnasol y drosedd.
Dangosodd y llwybr ymholi hwn fod ffonau symudol y dyn a’i wraig yn eu cyfeiriad cartref yn Abertawe, gan felly ei ddileu ef fel rhywun a ddrwgdybiwyd.
Cyfwelwyd Plumb ymhellach ar y dystiolaeth hon ac eto cadwodd at ei honiad fod ei gar allan i gael ei brofi'r diwrnod hwnnw gan y dyn 70 oed, a’i fod wedi gadael ei ffôn symudol yn y car.
Cafodd yr achos ei roi o flaen Gwasanaeth Erlyn y Goron a gyhuddodd Plumb o wyrdroi cwrs cyfiawnder cyhoeddus.
Yn Llys y Goron Abertawe ar ddydd Mercher, 29 Medi, 2021, nodwyd ple euog o ganlyniad i’r dystiolaeth lethol, er y plediwyd yn ddieuog yn wreiddiol.
Nid oedd y Barnwr Paul Thomas CF yn barod i ystyried adroddiad cyn dedfrydu gan fod gweithredoedd y diffynnydd yn dangos cryn gyfrifoldeb, ac yn Drosedd yn erbyn cyfiawnder cyhoeddus.
Wrth ddedfrydu Plumb, beirniadodd y Barnwr Thomas ef am ddweud yr hyn a ddisgrifiodd fel “celwydd noeth, sinigaidd”.
Meddai’r Barnwr Thomas: “Mae hwn yn taro wrth galon cyfiawnder ac yn tanseilio popeth. Mae angen i’r cyhoedd wybod beth sy’n digwydd i bobl sy’n ymddwyn yn y modd y gwnaethoch chi.”
Dedfrydwyd Plumb i chwe mis o garchar a’i wahardd rhag gyrru am 15 mis.
Disgrifiodd Cwnsler y Frenhines dros yr erlyniad, Dean Pulling, ymchwiliad y swyddog heddlu fel un di-ildio a phenderfynol.
Ategodd y Barnwr Thomas waith diwyd a chaled y swyddog i’r llys, a rhoddodd gyfarwyddyd i’r erlynydd hysbysu uwch swyddogion y Cwnstabl Whiles o’r gydnabyddiaeth hon.
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd Cydlynydd Rhanbarthol Gan Bwyll, y Rhingyll Ian Price: “Dylid cymeradwyo’r Cwnstabl Whiles am y sgiliau ymchwilio cyson a phenderfynol y mae wedi eu dangos.
“Mae’r achos hon yn un o chwe euogfarn y mae wedi eu sicrhau o fewn y pedwar mis diwethaf am y drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder cyhoeddus.
“Mae ei waith yn helpu cadarnhau’r neges na fydd ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn gweithio, a byddwch yn cael eich dal a’ch erlyn.
“Yn yr achos hwn, y mae wedi arwain at ddyn yn colli ei ryddid. Does dim gwerth mewn celwydda.”