Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Parchu, diogelu a mwynhau. Dyna neges Heddlu Dyfed-Powys wrth i swyddogion annog pobl i ddathlu Calan Gaeaf yn ddiogel.
Mae’r heddlu wedi lansio Ymgyrch Bang 2021, yn gofyn i bobl feddwl yn wahanol ynghylch y ffordd y byddant yn nodi Calan Gaeaf eleni.
Nid yw COVID-19 wedi diflannu, a gyda rhai cyfyngiadau dal mewn lle, mae swyddogion yn annog pobl i barchu eu cymdogion, amddiffyn gwasanaethau brys drwy ostwng y galw arnynt, a mwynhau dathliadau yn eu cartrefi.
Meddai’r Arolygydd Justin Evans o’r Hwb Cymunedau Diogelach: “Efallai eich bod yn gyfarwydd ag Ymgyrch Bang, sy’n ymgyrch flynyddol wedi ei hanelu at gadw pobl yn ddiogel dros Galan Gaeaf a Noson Guto Ffowc. Eleni, er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl yn ddiogel, am yr ail flwyddyn yn olynol, mae ein neges ychydig yn wahanol o ystyried yr amgylchiadau anghyffredin rydyn ni wedi ein canfod ein hunain ynddynt.
“Rydyn ni’n gofyn i bobl ystyried dathlu yn eu cartrefi yn hytrach na mynd allan i grwydro, gan barchu bod yna bobl sy’n cael Calan Gaeaf yn ofidus yn ystod amserau arferol, ac a fyddai efallai’n cael bod ansicrwydd y sefyllfa bresennol wedi dwysáu’r teimladau hyn o bryder.
“Rydyn ni hefyd yn gofyn ichi wneud eich gorau i gadw’ch hun a’ch teulu’n ddiogel er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys yn ystod cyfnod sydd eisoes yn brysur iawn.”
Mae cerfio pwmpenni, gwneud crefftau a chreu taith arswyd o amgylch eich tŷ neu eich gardd i gyd yn ffyrdd y gallwch chi ddathlu Calan Gaeaf gartref gyda phlant ifanc.
Bydd plant hŷn a rhai yn eu harddegau efallai eisiau cyfarfod â ffrindiau, ond rydyn ni’n annog rhieni i gadw golwg ar eu cynlluniau, eu hatgoffa i ystyried goblygiadau eu gweithredoedd, ac ystyried cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r pandemig.
“Yn ffodus, nid yw mwyafrif y cymunedau rydyn ni’n eu plismona’n gweld cynnydd mawr mewn troseddu yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, ond mae bob amser posibilrwydd y gall un neu ddau o bobl ddifetha’r cyfan i bawb arall,” meddai’r Arolygydd Evans.
“Dydyn ni ddim eisiau i fwynhad unrhyw un fynd dros ben llestri ac achosi gofid na niwed i eraill.
“Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gael Calan Gaeaf diogel a llawn hwyl.”
I gael syniadau am grefftau Calan Gaeaf a ffyrdd o ddathlu yn eich cartref, ewch at dudalen Pinterest Heddlu Dyfed-Powys, a lawrlwythwch eich copi o'n poster "dim ymwelwyr" isod...