Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:05 08/09/2021
Ar ddydd Llun Medi 6, cyflawnodd swyddogion o Tarian, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol de Cymru, gyda chefnogaeth swyddogion o Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys, nifer o warantau mewn cyfeiriadau ar draws Caerdydd, Abertawe a Llanbedr Pont Steffan fel rhan o ymgyrch barhaus i fynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn ne Cymru.
Yn ystod chwiliadau casglodd swyddogion:
Tua £100,000 mewn arian parod
Tua 1000 planhigyn canabis
55kg o ganabis
1kg o gocên
Offer yn cynnwys peiriannau cyfri arian a chloriannau pwyso diwydiannol.
Arestiwyd pump o bobl ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A ac aethpwyd â hwy i orsaf heddlu Ffordd y Frenhines ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer eu holi.
Maent yn cynnwys:
Dyn 37 oed o Ben-y-lan, Caerdydd
Dyn 33 oed o’r Rhath, Caerdydd
Dyn 49 oed o Gilcennin, Ceredigion
Dau ddyn 32 oed o Waunarlwydd, Abertawe
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch cyflenwi cyffuriau gysylltu â Heddlu Dyfed Powys drwy’r dulliau canlynol: nail ai ar-lein ar: https://bit.ly/DPPContactOnline, drwy ebost [email protected], neu drwy ffonio 101.
Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311908.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu drwy fynd at crimestoppers-uk.org.