Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a ymosododd yn ffyrnig ar ddau swyddog heddlu a aeth i’w helpu wedi derbyn dedfryd o 26 wythnos o garchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd.
Yn ystod oriau mân y bore ar 3 Mai, galwodd y gwasanaeth ambiwlans Heddlu Dyfed-Powys ar ôl i’w griw weld Matthew James, 36 oed, o Elm Grove, Penfro, mewn dillad tywyll, yn baglu ar hyd y B4318 rhwng Gumfreston a Dinbych-y-pysgod.
Aeth Cwnstabl Morgans a Chwnstabl Knight i’r lleoliad, a’i yrru adref am eu bod nhw’n poeni am ei ddiogelwch. Er ei fod yn feddw, roedd James yn ufudd. Fodd bynnag, pan gyrhaeddon nhw ei gyfeiriad cartref, dechreuodd James ymddwyn yn ddifrïol ac ymosodol yn erbyn y swyddogion benywaidd.
Er waethaf ymdrechion y swyddogion i dawelu’r sefyllfa, trodd ymddygiad James yn dreisgar, a tharodd y swyddogion a oedd wedi ei yrru’r 12 milltir i’w gartref i ddiogelwch.
Mae’r ymosodiad wedi cael effaith difrifol ar ei ddioddefwyr. Anafwyd y ddwy’n gorfforol. Dioddefodd Cwnstabl Morgans lygad ddu a chwyddo i’w phen, sydd wedi ei chreithio. Dioddefodd Cwnstabl Knight chwyddo i’w hwyneb hefyd.
Fodd bynnag, mae’r ddwy’n dweud y bydd yr effaith seicolegol yn rhywbeth a fydd yn cymryd amser i ddygymod â hi.
Mewn datganiad effaith ar ddioddefwyr, dywedodd Cwnstabl Knight: “Rwyf yng nghyfnod cynnar fy ngyrfa, ac ni fu’n rhaid imi boeni am fy niogelwch erioed, ac yn sicr, ni feddyliais y byddai’n rhaid imi feddwl ddwywaith amdano â minnau’n gwisgo fy lifrai.
“Roeddwn yn hyderus y byddai James yn ddiolchgar ac yn gadael ar ôl inni fynd ag ef adref y noson honno.
“Hyd yn oed pan fygythiodd ymosod arnaf i a’m cydweithwraig, ni chredais y byddai’n cyflawni ymosodiad mor dreisgar a digymell.
“Nid yw’n deall nac yn sylweddoli’r effaith mae’r sefyllfa gyfan wedi cael arnaf yn fy mywyd personol a’m bywyd gwaith.
“Pan fydd hyn drosodd, bydd yn symud ymlaen yn hawdd, ond yn anffodus, i mi, bydd yn cymryd amser.
“Rwyf dal yn fenyw o gig a gwaed o dan y lifrai hwn. Mae gennyf deimladau, emosiynau a theulu i fynd adref ato.”
Dywedodd Cwnstabl Morgans ei bod hi’n ailchwarae’r digwyddiad yn ei phen, a’i bod hi dal yn meddwl pam fod pethau wedi mynd o’i le.
Ychwanegodd: “Does dim llawer wedi newid. Mae’r anaf dal ar fy wyneb, ac rwyf yn dal i ailchwarae’r digwyddiad yn fy meddwl.
“Nid yn unig effeithiau’r noson yw’r broblem, ond yr effaith emosiynol a chorfforol dros yr holl ddyddiau, wythnosau a misoedd hyn.
“Codi ar ddiwrnodau gorffwys er mwyn ffonio’r meddygon ac aros am alwad yn ôl. Ymweliadau â’r feddygfa, yr ysbyty, apwyntiadau gyda’r optegydd. Mae hyn wedi llenwi fy niwrnodau i ffwrdd o’r gwaith.
“Yna, mae pawb yn gofyn imi beth ddigwyddodd a pham. Rwy’n dal i fethu ateb y cwestiwn hwnnw.”
Ar ôl cynnydd yn nifer yr ymosodiadau o’r fath, mae Heddlu Dyfed-Powys a'r gwasanaethau brys yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i lansio’r ymgyrch ‘Gweithiwch Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn’.
Lansiwyd yr ymgyrch hon ar ôl i 4,240 o ymosodiadau gael eu cyflawni yn erbyn gweithwyr brys, gan gynnwys swyddogion heddlu, swyddogion tân a chriwiau ambiwlans, rhwng Ebrill 2019 a Thachwedd 2020, sy’n cynrychioli cynnydd misol o 202 yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%, ar gyfartaledd.
Dywedodd Emma Ackland, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys: “Mae ymosodiadau ar swyddogion heddlu’n parhau i gynyddu, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Ni ddylai’r un swyddog ddisgwyl dioddef unrhyw fath o ymosodiad pan mae’n gwneud ei orau i wasanaethu’r cyhoedd, ac o bosibl achub bywydau. Mae’n hollbwysig fod dedfrydau a roddir yn adlewyrchu’r niwed a’r gofid a achosir i’r dioddefwyr hyn – gweithwyr proffesiynol sy’n gwneud eu gwaith.”
Dedfrydwyd James yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 1 Medi, pan orchmynnwyd ef hefyd i gyflawni 300 awr o waith di-dâl a rhoddwyd cyrffyw iddo am 4 mis o 8y.h. tan 8y.b. Fe’i gorchmynnwyd hefyd i dalu iawndal o £625 i Gwnstabl Morgans a £500 i Gwnstabl Knight, a chostau o £85.