Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, dydd Sul 26 Medi 2021, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn oedi i nodi Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu a thalu teyrnged i’r swyddogion heddlu hynny a roddodd eu bywydau er mwyn diogelu’r cyhoedd.
Ers 2004, mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu wedi bod yn ddigwyddiad arwyddocaol ar galendr yr heddlu. Heddiw, yn Eglwys Gadeiriol Lincoln, bydd Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, yn ymuno â chynulleidfa lai o gydweithwyr o’r gwasanaeth heddlu, a theulu a ffrindiau swyddogion a fu farw, mewn gwasanaeth goffa a arweinir gan y Canon David Wilbraham MBE i goffau’r rhai a gafodd eu lladd neu a fu farw ar ddyletswydd.
Mewn teyrnged bersonol, dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Parmenter: “Bob dydd, mae swyddogion heddlu ledled y wlad yn arddangos dewrder ac ymrwymiad i’w dyletswydd drwy redeg i ganol perygl er mwyn gwarchod eraill rhag niwed.
“Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys byth yn anghofio’r meibion a’r merched hynny a wnaeth yr aberth eithaf wrth wasanaethu eu cymunedau.
“Bydd y cof amdanynt yn parhau. Boed iddynt orffwys mewn hedd.”
Bydd y Tad Liam Bradley, prif gaplan yr heddlu, yn arwain teyrnged leol mewn gweddi ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys.
Er bod yn rhaid cyfyngu’r nifer sy’n mynd i’r gwasanaethau coffa lleol a chenedlaethol, bydd y gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Lincoln yn cael ei ddarlledu’n fyw am 2 o’r gloch, a bydd fideo uchafbwyntiau’n cael ei ryddhau am 4 o’r gloch. Cewch wylio'r rhain drwy wefan Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu.