Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:01 05/09/2021
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion a allai fod â gwybodaeth am wrthdrawiad ym Mhenfro sydd wedi gadael dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Digwyddodd y digwyddiad, a oedd yn ymwneud â char a cherddwr, ar St. Daniels Hill, Penfro (ar y B4319) rhywbryd rhwng 5.30 a 6.15 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul 5 Medi 2021).
Peugeot 208 gwyn oedd y cerbyd cysylltiedig, a oedd yn teithio tua’r gogledd ar y B4319 i gyfeiriad cyffredinol Penfro. Mae’r dyn a gafodd ei anafu (y cerddwr) mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion i roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Dyfynnwch y cyfeirnod DP-20210905-113. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.