Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn hebrwng llwythau anghyffredin drwy ogledd a chanolbarth Cymru i fferm wynt newydd ger Y Groes y mis hwn.
Bydd y llwythau’n teithio o Wrecsam unwaith bob diwrnod gwaith a chynghorir gyrwyr i fod yn ymwybodol o’u llwybr, a lle’n bosibl ei osgoi, er mwyn atal cael eu dal mewn oediadau.
Y llwybr yw’r A483, A5, A483, A489, A470, A4081, A483 a’r A44 i safle Fferm Wynt Hendy.
Bras amserau ar gyfer pob rhan o’r daith, sy’n ddibynnol ar nifer o ffactorau a allai achosi oedi neu newidiadau, yw:
Meddai Rhingyll Uned Plismona Ffyrdd Aberhonddu, Matthew Thomas: “Mae’r amserlen yn nodi y bydd y confoiau wedi eu cwblhau ar ddydd Mawrth y 28ain o Fedi 2021, fodd bynnag mae’r 29ain o Fedi i’r 1af o Hydref yn ddiwrnodau wrth gefn rhag ofn na fydd y gwaith trosglwyddo wedi ei gwblhau.
“Mae tîm hebrwng yr heddlu’n gwneud pob peth y gallant i leihau unrhyw darfiadau ar y ffyrdd ac i gymunedau lleol. Rydym yn diolch iddynt am eu hamynedd a’u dealltwriaeth barhaus. Ein bwriad yw rhoi diweddariadau dyddiol rheolaidd ar y dudalen twitter @powysrpu.”