Stamp amser presennol: 06/08/2026 18:38:36
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Siarter Hawliau Plant yn sicrhau bod hawliau plant yn flaenllaw yn ardal Dyfed-Powys

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:28 23/09/2021

Mae hawliau plant yn flaenllaw yn ardal Dyfed-Powys wrth i Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys fabwysiadu’r Siarter Hawliau Plant ar y cyd. Crëwyd y siarter gyda chymorth Comisiynydd Plant Cymru i alluogi’r heddlu a’n partneriaid i arddangos yr ymrwymiad yr ydym eisiau gwneud tuag at bobl ifainc wrth inni ddod i gysylltiad â nhw ar draws yr ardal.

Gan fanylu ynghylch hawliau pobl ifainc sy’n dod i gysylltiad â’r asiantaethau hyn, mae’r siarter chwe phwynt – a fabwysiadwyd yn swyddogol heddiw (dydd Mercher 22 Medi) – yn nodi sut y byddant bob amser yn gweithio ar ran ac er budd plant a phobl ifainc, gan eu trin â pharch ac yn gyfrinachol.

Mae’n cyfeirio at holl gysylltiad pobl ifainc â’r asiantaethau hyn, ac o safbwynt yr heddlu, mae’n cynnwys dioddefwyr trosedd a’r rhai sydd wedi’u cyhuddo o dorri’r gyfraith.

Disgwylir i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr lynu wrth addewidion y siarter pryd bynnag maen nhw’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifainc.

Lluniwyd y siarter gyda phobl ifainc o bob cwr o ardal Dyfed-Powys yn dilyn ymarfer ymgysylltu sylweddol â phobl ifainc o bob oed, er mwyn deall beth oedd yn bwysig iddynt a’u disgwyliadau.

Cyfarfu nifer o ddisgyblion Ysgol y Felin â Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Delyth Raysnford aelod annibynol ar gyfer y gymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Peter Greenslade, Pennaeth Corfforaethol Atal a Diogelu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mewn digwyddiad ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Mercher 22 Medi) i nodi lansiad swyddogol y siarter.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter: “Yn Heddlu Dyfed-Powys, credwn fod gan blant yr hawl i fyw, dysgu a thyfu mewn amgylchedd diogel sy’n eu galluogi i ffynnu. Mae’n rhaid inni ofalu amdanynt a’u hamddiffyn, gan mai nhw yw ein hetifeddiaeth ar gyfer y dyfodol. Mae ein Siarter Hawliau Plant ar y cyd yn ein galluogi i arddangos a sefydlu’r gred hon drwy Ymagwedd Hawliau Plant ym mhob dim a wnawn, ac yn bwysig, ei fod wedi’i ddatblygu ar gyfer pobl ifainc gan bobl ifainc. 

“Mae ein staff yn gweithio gyda’i gilydd a’n partneriaid er mwyn sicrhau bod yr holl blant yr ydym yn dod i gysylltiad â nhw’n cael eu trin â pharch ac yn gyfrinachol. Mae ein siarter yn cyfeirio at holl gyswllt pobl ifainc â’r heddlu, gan gynnwys dioddefwyr trosedd a’r rhai sydd wedi’u cyhuddo o dorri’r gyfraith.

“Braint yw lansio’r Siarter Hawliau Plant heddiw a ffurfioli ein hymrwymiad tuag at warchod hawliau’n plant a’n pobl ifainc. Rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r Siarter, ac i Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru am ein cefnogi drwy gydol y broses.”

Dywedodd Steffan Jones o flwyddyn 6 yn Ysgol Brynsierfel: “Braint oedd cael bod yn rhan o’r broses o greu’r siarter. Teimlwn fel ysgol bod llais pob plentyn yn bwysig dros ben, a bydd y siarter hwn yn ein helpu i ledaenu’r neges ar draws yr ysgol.”

Ychwanegodd Teagan Croucher, hefyd o flwyddyn 6 yn Ysgol Brynsierfel: “Mae mor bwysig bod pob plentyn yn gwybod am ei hawliau ac yn eu deall, a bydd y siarter hwn yn ein helpu ar y daith i ennill y wobr Aur ar gyfer Ysgolion sy’n Parchu Hawliau.”

Dywedodd Peter Greenslade, Pennaeth Atal a Diogelu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n falch o fod yn gysylltiedig â chyflwyno’r Siarter Hawliau Plant Golau Glas. Yr ydym yn gweithio’n helaeth gyda phobl ifainc i ddatblygu eu sgiliau bywyd a gwella eu bywydau, ac mae’r Siarter yn tanategu popeth a wnawn gyda’n mentrau ieuenctid a’n gwaith addysg. Mae’r Siarter yn ddatganiad gwerthfawr sy’n dangos ein bod ni a’n partneriaid wedi ymrwymo i’n pobl ifainc, a dylai sicrhau pobl ifainc bod eu lles yn flaenllaw ym mhopeth a wnawn.”

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn wirioneddol falch o gefnogi’r Siarter Plant a Phobl Ifainc. Yr ydym wedi ymrwymo i wrando ar ein poblogaeth iau a sicrhau eu lles. Mae’n hynod bwysig bod pob plentyn yn gwybod bod ganddo’r hawl i gael mynediad at unrhyw wasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i sicrhau ei iechyd da. Mae gan bob plentyn yr hawl i fagwraeth hapus, iach a diogel.”

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Rwy’n falch dros ben ein bod ni’n lansio’n Siarter Hawliau Plant, a’n bod ni wedi cymryd ymagwedd gydweithredol tuag at lunio siarter ar y cyd â’n partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Cyfamod hawliau dynol rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy’n rhoi set gynhwysfawr o hawliau i bob plentyn ac unigolyn ifanc, sy’n hollbwysig ar gyfer cefnogi a datblygu plant mewn cymunedau ledled y byd. Drwy sefydlu a lansio’r Siarter fan hyn yn ardal Dyfed-Powys, yr ydym yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio i gyflawni uchelgeisiau’r Cenhedloedd Unedig.

“Credwn fod gan bob plentyn hawl i fyw, dysgu, chwarae a thyfu mewn amgylchedd diogel o fewn ein cymunedau. Ein hymrwymiad yw sicrhau bod cyfrifoldebau a phwerau Heddlu Dyfed-Powys, fy Swyddfa i, a rhai’n partneriaid yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd sy’n gyson â’r Confensiwn ac yn galluogi plant a phobl ifainc i gyfrannu at adeiladu cymunedau diogel ac iach ar gyfer y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r Siarter, ac i Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru am ein cefnogi drwy gydol y broses.”

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Bu’n bleser gweithio ar y fenter hon gyda Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac eraill sy’n cyflenwi gwasanaethau ar draws y rhanbarth, a gweld sut maen nhw wedi ymrwymo i roi hawliau plant wrth galon eu gwaith gyda phobl ifainc.

“Rwy’n arbennig o falch bod y plant eu hunain wedi chwarae rôl ganolog, sy’n elfen graidd o unrhyw ymagwedd hawliau plant. Os ydyn ni eisiau bod o ddifri am ddiogelu hawliau dynol plant fel cymdeithas, mae angen inni sicrhau bod plant yn profi’r hawliau hynny ym mhob agwedd o’u bywydau, a bod y cyrff cyhoeddus sy’n eu gwasanaethu’n eglur yn eu hymrwymiad tuag at yr hawliau hynny.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.